Y Pab: Ymddiswyddo ddiwedd y mis

Hwn yw'r ymddiswyddiad cyntaf o'r Babaeth yn y cyfnod modern.

Straeon Perthnasol

Mae'r Pab wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i'w swydd ddiwedd y mis, gan ddweud ei fod yn rhy hen i barhau.

Mae'r Pab Bened XVI yn 85 oed ac fe olynodd Ioan Pawl II yn 2005.

Dyma'r ymddiswyddiad cyntaf o'r Babaeth yn y cyfnod modern.

Dywedodd y Fatican eu bod yn disgwyl i olynydd gael ei ethol cyn diwedd Mawrth.

Roedd y Pab presennol, y cyn Gardinal Joseph Ratzinger, yn 78 pan gafodd ei ethol.

Mewn datganiad dywedodd: "Ar ôl archwilio fy nghydwybod ar sawl achlysur o flaen Duw, rwyf wedi dod i gasgliad pendant nad yw fy nghryfderau, oherwydd fy oedran, yn addas i reoli'r offeiriadaeth Bedraidd yn effeithiol.

Dywedodd Dr Harri Pritchard Jones, un o aelodau amlwg yr Eglwys Gatholig yng Nghymru: "Mae o wedi cadw ei salwch yn gyfrinach, mi gafodd o stroc rai blynyddoedd yn ôl ond roedd o'n sioc o glywed ei fod o'n mynd.

"Dim ond unwaith dwi'n credu fod ymddiswyddiad fel hyn wedi digwydd o'r blaen.

'Penderfyniad anodd'

CEFNDIR

Pab Bened XVI
  • Yn 78 oed roedd yn un o'r pabau hyna' pan gafodd ei ethol yn 2005;
  • Cafodd ei eni yn Yr Almaen yn 1927 ac roedd yn aelod o'r Hitler Youth yn yr Ail Ryfel Byd;
  • Oherwydd gorfodaeth filwrol roedd yn saethu at awyrennau cyn gadael y Fyddin;
  • Mae'n ddiwinydd ceidwadol a chanddo farn ddigyfaddawd am bobl hoyw

"Fe fydd yn cael ei gofio am ei dair cyfrol ar hanes yr Iesu ac mi wnaeth o gryn dipyn o deithio ond, wrth gwrs, roedd ei iechyd yn gwneud hynny yn fwy anodd."

Ychwaengodd fod yna barch mawr ato fel diwinydd.

Dywedodd Paul Murphy, AS a chyn Ysgrifennydd Cymru: "Mae'r Pab Bened yn ddiwinydd o fri ac rwy'n hyderus ei fod wedi dod i'r penderfyniad ar ôl llawer o bendroni.

"Rhaid bod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd a does dim cynsail i benderfyniad o'r fath yn y cyfnod modern.

"Mae'n ddyn o ffydd gadarn ac mae Cristnogion wedi parchu ei safiad ar faterion moesol.

'Teilwng'

"Rwy'n gweddïo y bydd yr eglwys yn dod o hyd i olynydd teilwng."

Dywedodd llefarydd ar ran y Fatican, y Tad Federico Lombardi, nad oedd hyd yn oed ei gyfeillion agos yn gwybod am gynlluniau'r Pab.

Ychwaengodd fod y penderfyniad yn dangos dewrder.

Yn ôl brawd y Pab, Georg Ratzinger, roedd doctoriaid wedi ei gynghori i beidio mynd ar fwy o dripiau tramor, ac roedd wedi bod yn ystyried rhoi'r gorau iddi am fisoedd.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.