Lladd pump mewn damwain car

Bilques Hayat, Mohammed Isshaq, Shaukat Ali Hayat, Abida Hayat a Saira Zenub Bu farw Bilques Hayat, Mohammed Isshaq, Shaukat Ali Hayat, Abida Hayat a Saira Zenub yn y ddamwain

Mae pum aelod o'r un teulu o Gasnewydd wedi eu lladd mewn damwain ffordd yn Saudi Arabia.

Roedd y pump yn bwriadau mynd ar bererindod i Mecca.

Cafodd y pump eu henwi yn lleol fel Shaukat Ali Hayat, 56 oed, ei wraig Abida, 47 oed, eu mab Mohammed Isshaq, 33 oed, eu merch Saira Zenub a gwraig Mohammed, Bilques, 31 oed.

Yr unig un i oroesi oedd y babi blwydd oed, Mohammed Eisa Daniel Hayat,

Cafwyd hyd iddo ym mreichiau Mr Hayat. Roedd braich ac asennau'r babi wedi torri ac roedd wedi datgymalu ei ysgwydd.

Pedair awr

Adeg y ddamwain ddydd Gwener roedd y teulu o ardal Pillgwenlli ar daith bedair awr i ddinas Jeddha er mwyn cwrdd â pherthnasau.

Adroddiad Aled Huw

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn helpu perthnasau'r teulu.

Roedd adroddiadau fod eu tacsi wedi taro pont goncrid cyn troi drosodd a chwympo mewn ffos.

Dywedodd Sma Hayat, 58 oed: "Roedd fy mrawd yn athro ac awdur hoffus.

"Fferyllydd oedd Saira, yn ddawnus iawn yn ei swydd ac roedd Mohammed Isshaq yn gobeithio gwneud doethuriaeth mewn niwrowyddoniaeth ac yn fyfyriwr addawol.

"Hon yw un o'r trychinebau mwya am deulu Moslemaidd yng Nghymru."

Dywedodd y cynghorydd lleol, Ron Jones: "Roedd y teulu'n wych, yn rhan bwysig o'r gymuned.

"Bydd llawer yn yr ardal yn galaru."

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.