Carwyn Jones yn ymweld â San Francisco
Adroddiad Aled ap Dafydd
Dywed prif weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod o'n gobeithio y bydd cwmnïau yng Nghymru yn elwa o'i daith fusnes i San Francisco.
Bydd 18 o gwmnïau, gan gynnwys cwmnïau Technoleg Gwybodaeth, yn hedfan gyda Mr Jones i Galifornia.
Hwn yw'r diweddara mewn cyfres o ymweliadau tramor gan Mr Jones gyda'r bwriad o sefydlu marchnadoedd newydd i gwmnïau o Gymru.
Dywed gwrthwynebwyr gwleidyddol Mr Jones fod angen iddo ddangos yn eglur sut mae ymweliadau o'r fath yn helpu economi Cymru.
Yn ddiweddar dywedodd Mr Jones wrth y BBC y byddai yn gwneud cyhoeddiad tra yn San Francisco, "cyhoeddiad fydd yn dangos ein bod wedi cymryd camau ymlaen."
'Gemau gwleidyddol'
Ond gwrthododd roi rhagor o fanylion ar y pryd.
Yn y gorffennol mae Mr Jones wedi siarad am yr angen i sicrhau bod gan lywodraeth Cymru staff wedi eu lleoli mewn marchnadoedd tramor o bwys, gan gynnwys gorllewin America.
Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am sicrwydd fod y teithiau masnach yn dod â budd i Gymru - a'u bod yn cyflawni mwy na 'hybu ei ego' yn unig.
Mae Mr Jones wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o chwarae gemau gwleidyddol, gan fynnu ei bod yn bwysig gwerthu Cymru i'r byd.
Yn ddiweddar mae wedi ymweld â Thwrci ac Iwerddon.
Ym mis Mawrth fe fydd yn teithio i Efrog Newydd ac yna yn ymweld â Japan ym Mehefin.
Fe fydd yn San Francisco am 4 diwrnod.
"Dyma ein cyfle i ddysgu o'r farchnad lwyddiannus hon a chwilio am gyfleoedd i fusnesau o Gymru," meddai Mr Jones.
" Mae'n bwysig dros ben fy mod i fel Prif Weinidog Cymru yn sefydlu a meithrin cysylltiadau a fydd yn agor drysau i gwmnïau ein gwlad.
"Mae nifer o gwmnïau o Gymru wedi dod yma gyda mi er mwyn cymryd mantais ar y cyfle unigryw hwn i archwilio potensial y farchnad hon a denu buddsoddiad newydd."
Mae gwerth allforion o Gymru i Ogledd America wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf.
Fe wnaeth Cymru allforio gwerth £915m yn ystod trydydd chwarter 2012 - y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael.
Roedd hynny yn ostyngiad o'i gymharu â £1 biliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2011.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~56~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
MMR a gofal brys yn flaenoriaethau
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith