Cysylltiad brenhinol

 Llandudno Fe wnaeth brenhines Romaniad ymweld a Llandudno yn 1890

Mae tref glan y môr yn y gogledd y gobeithio elwa ar gysylltiadau hanesyddol gyda theulu brenhinol o ddwyrain Ewrop er mwyn hybu'r economi leol.

Canrif a mwy yn ôl, roedd un o westai'r dref yn rhoi lloches i ymwelydd arbennig o ddwyrain Ewrop.

Am bum wythnos yn 1890, bu Brenhines Elizabeth o Romania yn aros fel gwestai yn yr Adeplhi ac mae tref Llandudno yn dal i gofio'r ymweliad yn Arfbais Swyddogol y dref.

Cafodd Ffordd Carmen Syla (non de plum y Frenhines fel nofelydd) a Chylchfan Romania eu henwi i anrhydeddu a choffau'r ymweliad.

Yn nerbynfa'r gwesty mae yna luniau o'r frenhines yn ogystal â llythyr yn diolch am y croeso.

Mae Rheolwr y Gwesty, Marcus Williams yn ymfalchïo yn y cysylltiadau brenhinol.

Llacio

"Do mi ddaru'r frenhines Elizabeth aros yma ac rydym yn n ymfalchïo yn hynny," meddai Mr Williams.

"Roedd hi ar daith drwy Ewrop yn chwilio am wraig i'w mab anystywallt."

Pan deithiodd y frenhines drwy Brydain, cafodd wneud hynny yn ddirwystyr ond bellach mae yna reolau sydd yn penderfynu nifer y rhai o Romania sy'n cael mynediad i Brydain.

Ond ar ôl Ionawr 2014 bydd y rheolau yn cael eu llacio.

Banner

I rai, mae hynny yn creu cyfloed economaidd i fasnachu gyda marchnadoedd yng nghanolbarth Ewrop.

Mewn cyfweliad i BBC Cymru a wnaed yn ystod ei ymweliad swyddogol a Chaerdydd, dywedodd cyn Ysgrifennydd Tramor Romania, Andrei Marga fod angen mwy o gydweithio rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

"O fewn yr Ewrop newydd mae angen i wledydd yr Undeb Ewropeaidd ddod i adnabod ei gilydd yn well. O fewn teulu mae'n arferol i rannu syniadau a gwerthoedd a hyd yn oed i gael ambell i ffrae"

Mae Llysgenhadaeth Romania eisoes wedi datblygu cysylltiadau clos gyda'r Alban.

Cylfe

Cafodd Eglwys Uniongred ei hagor yn Glasgow i wasanaethu Romaniaid sy'n byw yno.

Bu'r Llysgennad Jhon Ingha yn Glasgow ddwsin o weithiau ers cael ei benodi yn 2008.

Ac yn ystod ymweliad diweddar â Chaerdydd, pwysleisiodd Dr Ingha ei fod yn awyddus meithrin cysylltiadau tebyg â Chymru.

Mae'r arbenigwr ar fentergarwch, Dr Dylan Jones Evans, o'r farn fod Llywodraeth Cymru a chwmnïau Cymreig yn colli cyfle.

"Mae yna dros 100 miliwn o bobl yn byw yng nghanolbarth Ewrop ac mae o yn farchnad anferth," meddai.

"Mae 'na gyfle gwmnïau o Gymru fynd draw yno ond hefyd cyfle i Lywodraeth Cymru fagu cysylltiad hefo llywodraeth Romania.

"Mae ganddynt ddiffyg arbenigedd ynglŷn â sut mae gwario arian Ewropeaidd ac mae gan Lywodraeth Cymru brofiad o'r fath. "

Mae Clive Williams yn ŵr busnes o Gwm Cynon a fo hefyd yw Conswl Anrhydeddus Romania yng Nghymru.

Buddsoddi

Mae o'n bendant fod profiad Cymru o hybu datblygiad economaidd yn amhrisiadwy fel adnodd sydd o ddiddordeb i wledydd fel Romania.

"Mae Romania am ryw reswm yn amharod i hybu'r wlad fel lle i fuddsoddi yno.

"Ond mae yna gyfle ac mi all Cymru fod o gymorth.

"Rhwng 2007-2011 roedd yna £30 biliwn o arian ar gael o Gyllided Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd ar gael i hybu adeiladwaith; amaethyddiaeth a phrosiectau amaethyddol.

"Mae gennym ni'r arbenigedd yng Nghymru i helpu Romania a thrwy hynny i elwa."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "Romania eisoes yn farchnad i gwmnïau o Gymru ac rydym yn barod i hyrwyddo cyfleoedd pellach."

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.