Cytundeb Ewrop o dan y lach

David Cameron David Cameron: Gallai'r cyhoedd fod yn 'falch' o'r cytundeb.

Straeon Perthnasol

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud bod cytundeb arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn "siomedig".

Ddydd Gwener cytunodd arweinwyr gyllideb 2014-20 wedi trafodaethau hir ym Mrwsel.

Dywedodd llywydd y Cyngor Ewropeaidd Herman van Rompuy fod y cytundeb "yn werth aros amdano".

Maen nhw wedi cytuno i'r toriad cyntaf yn y gyllideb am y tro cyntaf yn hanes yr undeb a dywedodd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Tomos Livingstone, fod hon yn "foment hanesyddol".

Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru: "Dyw'r cytundeb ddim yn arwain at y lefel fuddsoddi mewn swyddi a thwf economaidd sydd ei hangen yng Nghymru.

'£400m'

"Yn benodol, rydyn ni'n poeni am fod rhannau mwya' bregus Cymru, y gorllewin a'r Cymoedd, mae'n ymddangos, ar eu colled ac ardaloedd mwy llewyrchus y Deyrnas Gyfun ar eu hennill."

"Yn sicr, bydd y gyllideb yn golygu toriadau mawr i raglenni, gan gynnwys cronfeydd strwythurol.

"Mae angen astudio'r cytundeb yn fawl ond rydyn ni wedi amcangyfri' hyd yn hyn y bydd Cymru'n colli hyd at £400m."

Y bwriad yw gwario £773 biliwn rhwng 2014 a 2021.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, y gallai'r cyhoedd fod yn "falch" o'r cytundeb.

Mae Llafur wedi croesawu'r cytundeb ond mae rhai sylwebwyr wedi rhybuddio y gallai Senedd Ewrop rwystro'r broses.

'Effeithiol'

"Wedi oriau o drafod dwi'n credu fy mod wedi helpu sicrhau cytundeb effeithiol," meddai Mr Cameron.

Dywedodd Mr Jones: "Mae angen i'r Prif Weinidog esbonio sut mae hwn yn gytundeb effeithiol ar gyfer Prydain.

"Bydd arian Ewrop wedi ei neilltuo i Brydain yn mynd i ardaloedd mwy llewyrchus - ac ardaloedd mwy tlawd ar eu colled. Dyw hyn ddim yn dderbyniol."

Dywedodd Mr Cameron y byddai llai o arian ar gyfer amaethyddiaeth ond y byddai ymchwilio a datblygu'n cael eu hamddiffyn.

"Wrth gydweithio â gwladwriaethau eraill, mae modd cymryd camau at ddiwygio'r Undeb Ewropeaidd," meddai.

Mae angen i Senedd Ewrop gymeradwyo'r cytundeb.

Roedd gwladwriaethau fel Iwerddon a'r Deyrnas Gyfun wedi pwyso am doriadau oherwydd cyfnod o gyni economaidd.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.