Dyn trawsrywiol yn ddi-euog o dreisio menyw

Llys y Goron Abertawe Roedd yr achos yn Llys y Goron Abertawe

Yn Llys y Goron Abertawe cafwyd dyn trawsrywiol yn ddieuog o ymosod yn rhywiol ar fenyw.

Roedd Nadine Natasha Williams, 39 oed o Bont-rhyd-y-fen ger Port Talbot, wedi ei gyhuddo o dreisio'r fenyw a dwy drosedd rywiol arall.

Roedd y diffynnydd, Dean Williams gynt, wedi gwadu cael rhyw gyda'r fenyw "oherwydd hwn fyddai'r cyfle olaf" cyn iddo droi'n fenyw.

Roedd yr erlyniad wedi honni bod y diffynnydd wedi dal y fenyw ar wely cyn ei threisio ym mis Hydref 2011.

Cyfaddefodd y diffynnydd, sydd wedi bod yn byw fel menyw am ddwy flynedd fel rhan o'r broses newid rhyw, ei fod wedi cael rhyw gyda'r fenyw ond bod y ddau ohonyn nhw wedi cytuno i gael rhyw.

Dywedodd y Barnwr Peter Heywood: "Mae hwn wedi bod yn achos eithaf anarferol."

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.