Siop HMV i gau yn Wrecsam
Roedd gwerthiant Nadolig yn siomedig gan arwain at broblemau
Mae siop HMV yn Wrecsam ymysg 66 o ganghennau'r cwmni fydd yn cau dros y ddeufis nesaf.
Daw'r cyhoeddiad wedi i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ionawr eleni.
Gallai bron i fil o bobl golli eu gwaith o gau'r siopau hynny.
Mae siop HMV yn Wrecsam yn cyflogi 11 o bobl.
CystadleuaethMae gan y cwmni chwe siop arall yng Nghymru, yn Llandudno, Bangor, Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Chwmbrân.
Bydd y busnes, sy'n gwerthu cerddoriaeth ar gryno ddisgiau a fideos ymysg nwyddau eraill, yn parhau i weithredu tra bydd y gweinyddwyr, Deloitte, yn chwilio am brynwr newydd.
Mae 'na 239 o ganghennau ym Mhrydain ac Iwerddon.
Cychwynnodd y cwmni yn 1921 ac maen nhw wedi wynebu cystadleuaeth yn sgil prynu nwyddau ar y we.
Agorwyd y siop gyntaf yn Oxford Street yn Llundain.
Oherwydd problemau yn gynharach fe wnaeth y cwmni werthu rhannau o'r busnes, gan gynnwys siopau llyfrau Waterstones.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~17~RS~)

Jill Evans ar frig y rhestr
Elusen: 'Mwy o ddigwyddiadau'
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf