Swyddi ceir yn diflannu

Ceir ar werth Bydd gwaith cynhyrchu ar y safle ym Mochdre yn dod i ben

Fe fydd 79 o'r 83 o bobl sy'n cael eu cyflogi mewn ffatri cydrannau ceir yn sir Conwy yn colli eu gwaith.

Ddydd Mercher clywodd staff yn ffatri Quinton Hazell, ym Mochdre ger Bae Colwyn fod y cwmni wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr KPMG.

Roedd undeb Unite wedi gobeithio y byddai'r cwmni yn cael ei werthu a'r ffatri yn parhau i gynhyrchu.

Ond dywedodd y gweinyddwyr KPMG y byddai'r gwaith cynhyrchu ar y safle'n dod i ben.

Dywedodd AS Gorllewin Clwyd, David Jones, ei fod yn poeni am y cyhoeddiad.

'Trafferthion'

"Mae'r ffatri wedi cael trafferthion yn y gorffennol ond mi oeddwn i'n gobeithio y byddai'r sefyllfa ariannol yn sefydlog."

Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at y gweinyddwyr.

"Bydd pedwar gweithiwr yn parhau ar y safle er mwyn helpu dirwyn y gwaith i ben.

Cafodd 120 o weithwyr eu diswyddo yn 2007 gan y cwmni gafodd ei sefydlu gan y diweddar Eric Quinton Hazell ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Bryd hynny cafodd gwaith cynhyrchu cydwyr ei symud i Sir Warwick, gyda staff ym Mochdre yn cynhyrchu pympiau dŵr.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Maes awyr caernarfon'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'

    Dynes yn sôn am y foment y gwelodd hi awyren yn disgyn i'r ddaear mewn maes awyr.


  • Pen-y-banc Gwrthod cais

    Llywodraeth Cymru yn gwrthod cais i edrych eto ar benderfyniad i godi bron 300 o dai yn Sir Gaeryfyrddin.


  • Papur wythnosol Y CyfnodAchub Y Cyfnod

    Wythnosolyn Y Cyfnod yn ardal Penllyn yn cael ei brynu.


  • Des Davies Ysbrydoliaeth

    Dodrefn 'Shaker' sy'n ysbrydoli'r Gadair a'r Goron yn yr Urdd


Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.