S4C i adleoli peth gwaith o Gaerdydd?

Pencadlys S4C yn Llanisien S4C: Adleoli peth o'r gwaith o Gaerdydd?

Straeon Perthnasol

Mae S4C yn gofyn am gymorth gwahanol gyrff a sefydliadau wrth iddynt ystyried y posibilrwydd o adleoli rhannau o waith S4C o'r pencadlys yng Nghaerdydd.

"Mae'r gwahoddiad yma yn un agored iawn i unrhyw rai sy'n teimlo bod ganddyn nhw syniad da i'w gynnig. Cam cyntaf y broses yw cynnal astudiaeth ddichonoldeb i'r posibilrwydd o ddatganoli rhannau o waith S4C," meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis,

Ar hyn o bryd, mae gan S4C ddau safle - ei phencadlys yn Llanisien yng Nghaerdydd a swyddfa lawer llai yng Nghaernarfon.

"Ein dyhead yn S4C yw ceisio sicrhau bod y manteision economaidd sy'n deillio o waith S4C yn cael eu teimlo ar draws Cymru, ac mae hynny'n wir hefyd am effaith a dylanwad S4C ar yr iaith a diwylliant," meddai Mr Lewis.

"Rydan ni'n gwneud llawer o waith allan yn ein cymunedau ar hyn o bryd, ac yn teimlo bod angen edrych ar y posibilrwydd o symud peth o waith S4C i rannau eraill o Gymru os yw'n ymarferol i wneud hynny."

Ym mis Hydref y llynedd fe soniodd y prif weithredwr Ian Jones am y posibilrwydd o symud peth o'r gwaith o Gaerdydd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y darlledwr y dylai unrhyw un sydd â syniadau i'w cynnig o ran lleoliadau newydd i rannau o S4C ymweld â gwefan S4C i gael manylion am sut i ymateb yn y ffordd briodol.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.