Saith o swyddfeydd gyrfaoedd y fyddin i gau

Y Cafalri Cymreig yn gorymdeithio drwy Gaerdydd Y Cafalri Cymreig yn gorymdeithio drwy Gaerdydd

Straeon Perthnasol

Mae'r penderfyniad i gau saith o'r 12 swyddfa gyrfaoedd y Fyddin yng Nghymru wedi ei feirniadu gan Owen Smith, llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru.

Dywedodd Mr Smith, AS Pontypridd, fod y penderfyniad yn codi cwestiynau am allu'r fyddin i recriwtio o "bob rhan o'n gwlad a phob rhan o'n cymdeithas".

Erbyn diwedd mis Mawrth dim ond y swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam a Bangor fydd ar ago yn ôl Mr Smith.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y fyddin yn parhau i recriwtio a bod pobl yn defnyddio gwefannau a chyfryngau cymdeithasol yn fwy aml.

Ymgyrch recriwtio

Dywedodd Mr Smith fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi datgelu mewn ateb i gwestiynau gan y Blaid Lafur fod swyddfeydd gyrfaoedd y fyddin ym Mhontypridd, Y Fenni, Caerfyrddin, Hwlffordd, Y Rhyl, Aberystwyth a Phen-y-bont ar Ogwr naill ai wedi cau neu yn mynd i gau erbyn Mawrth 26.

Yn ôl Mr Smith bydd 83 o 156 o swyddfeydd gyrfaoedd y fyddin yn cau.

Dywedodd ei fod yn ymchwilio rhaglen cau'r swyddfeydd wedi i aelodau o'r fyddin mynegi eu pryder am lai o swyddfeydd mewn rhannau o'r DU sydd yn draddodiadol wedi bod yn llefydd lle mae'r fyddin wedi recriwtio'n llwyddiannus.

Dywedodd yr AS fod y ganolfan recriwtio yn ei etholaeth ym Mhontypridd wedi cau'n ddirybudd yn ddiweddar "ar ôl bod yn bresenoldeb balch a chyfarwydd o'r dref dros sawl cenhedlaeth".

Ychwanegodd fod cau'r swyddfeydd wedi digwydd oherwydd bod y cyfrifoldeb am recriwtio i'r fyddin wedi cael ei drosglwyddo i gwmni Capita Plc.

Yn ôl Mr Smith mae'r rhaglen cau'r swyddfeydd yn digwydd wrth i'r fyddin geisio trawsnewid ei chyfansoddiad gan ddiswyddo 20,000 o filwyr llawn-amser.

Mae'r fyddin hefyd wedi cychwyn ymgyrch recriwtio ar gyfer milwyr wrth gefn gan ddyblu nifer y rheiny i 30,000 erbyn 2020.

"Addawodd Capita y bydden nhw'n arbed cannoedd o filoedd o bunnoedd mewn costau recriwtio i'r fyddin pan gawsant y cytundeb ac rydym bellach yn gwybod sut y maen nhw'n bwriadu gwneud hynny - drwy gau canolfannau recriwtio sydd wedi bod yn nodweddiadol o strydoedd mawr Prydain ers degawdau," meddai Mr Smith.

Dywedodd llefarydd ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae'r fyddin yn parhau i recriwtio ac mae nifer y bobl sydd yn defnyddio gwefannau a chyfryngau cymdeithasol er mwyn edrych am wybodaeth am yrfaoedd yn y fyddin yn cynyddu.

"Mae ceisiadau ar-lein yn cynyddu felly mae'r angen am swyddfeydd recriwtio yn gostwng, ond byddwn yn dal i gynnal ein presenoldeb ar y stryd fawr fel bod pobl ifanc yn dal yn gallu siarad gyda staff."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.