Siop 'popeth am ddim' yn hwb economaidd yn Wrecsam?

Stondin Cymryd a Rhoi Mae'r fenter wedi bodoli yn y farchnad ers mis Tachwedd

Straeon Perthnasol

Gallai siop lle mae "popeth am ddim" helpu hybu'r economi leol yn ôl seicolegydd.

Mae stondin Cymryd a Rhoi ym Marchnad y Bobl yn Wrecsam yn cael ei redeg gan y grŵp gwirfoddol Economi Rhydd Wrecsam.

Mae'r grŵp yn annog cwsmeriaid i gymryd beth y mynnan nhw o'r stondin sydd yn cynnwys nwyddau ail law a roddwyd gan gefnogwyr y cynllun.

Yn ôl y seicolegydd, Dr Gareth Harvey, gallai cynnig nwyddau am ddim i siopwyr eu gwneud yn hapus gan eu hysgogi i wario mwy o arian mewn siopau eraill.

Cyfraniad

Mae'r fenter wedi bodoli yn y farchnad ers mis Tachwedd ac mae trefnwyr yn dweud ei bod wedi bod mor llwyddiannus y maen nhw'n ystyried agor ail stondin.

Mae pob un o'r nwyddau ail law yn rhad ac am ddim ond mae siopwyr yn cael eu gofyn i wneud cyfraniad ariannol amdanynt.

Mae'r arian sy'n cael ei godi yn cael ei drosglwyddo i gynlluniau cymunedol lleol.

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio ar y stondin Cymryd a Rhoi, Gay Jacobsen: "Mae llawer o bobl yn gofyn, faint yw hwn?

Rhai o'r eitemau rhad ac am ddim ar y stondin yn Wrecsam Rhai o'r eitemau rhad ac am ddim ar y stondin yn Wrecsam

"Rydym yn dweud ei fod yn rhad ac am ddim a dydyn nhw ddim yn deall gan feddwl bod magl yn gysylltiedig.

"Wedyn, maen nhw'n gwenu a gofyn a ydyn ni am rodd ariannol."

Mae'r nwyddau yn cynnwys dillad, cerddoriaeth dodrefn a phlatiau.

'Effaith bositif'

Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn cael eu helpu gan drydanwr i brofi'r nwyddau trydanol.

Nod y cynllun yw lleihau'r sbwriel sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Dywedodd Dr Harvey, sy'n ddarlithydd seicoleg siopwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, y gallai cynnig rhywbeth yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid gael effaith bositif ar yr economi leol.

"Os ydych chi'n derbyn rhywbeth nad ydych yn ei ddisgwyl rydych chi'n cael hwb i'ch hunan hyder," meddai.

"Mae pobl hapus yn tueddu prynu mwy o nwyddau felly mae'n bosib i'r stondin gael effaith dda ar siopau cyfagos."

Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan bobl sy'n rhedeg busnesau eraill yng nghyffiniau'r farchnad.

Dywedodd Karen Barker, sy'n berchen siop gemwaith: "Mae'r stondin yn denu mwy o bobl i ardal y farchnad.

"Maen nhw'n dda iawn am nad ydynt yn cynnig nwyddau rydyn ni yn eu gwerthu."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.