'Digwyddiad amheus' yn bryder

Car Heddlu

Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio am dystion i ddigwyddiad amheus yn ardal Uplands o'r ddinas.

Fe ddigwyddodd ar gornel Rhodfa Eden a Ffordd Glanmor am tua 4:00pm ddydd Llun, Chwefror 4.

Fe welwyd menyw ifanc, y credir ei bod yn ei hugeiniau canol, yn cael ei gorfodi i mewn i gefn cerbyd tywyll tebyg i Jeep.

Credir hefyd bod tri dyn yn y cerbyd sy'n cael eu disgrifio fel bod ag ymddangosiad Chineaidd.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Simon Davies, o heddlu Abertawe: "Rydym yn bryderus am ddiogelwch y fenyw a byddwn yn ei hannog i gysylltu â ni fel ein bod yn gwybod ei bod yn ddiogel ac iach.

"Rwyf hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad yma yng nghanol dydd ar ffordd brysur."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.