Rhybudd am rew ac eira mewn rhai mannau

Arwyddion ffordd Achosodd eira a rhew drafferthion i deithwyr fis diwetha'

Mae 'na rybudd i fodurwyr y gallai rhew achosi problemau teithio mewn rhannau o Gymru ddydd Mawrth, wrth i'r tymheredd ostwng ac eira gyrraedd rhai ardaloedd.

Bydd yr eira'n disgyn ar dir uchel ar y cyfan, ond mae disgwyl gwyntoedd cryfion iawn ar hyd arfordir y gorllewin.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew, ac yn darogan y bydd cawodydd gaeafol a gwyntoedd cryfion dros nos.

Bu'n rhaid i nifer o ysgolion gau ac achoswyd problemau traffig fis diwetha' oherwydd eira.

Roedd llawer o ffyrdd ynghau, gan gynnwys rhai ffyrdd mynyddig am nifer o ddyddiau, ac roedd dros 1,000 o bobl wedi colli eu cyflenwadau trydan mewn rhannau o'r wlad.

Mae rhybudd y Swyddfa Dywydd am rew mewn grym dros nos tan 11:00am bore dydd Mawrth ac mae'n berthnasol i'r rhan fwya' o Gymru heblaw am y de orllewin a rhan uchaf y gogledd orllewin.

Yn ôl arbenigwyr, gallai tua 1 - 2 cm (0.4 - 0.8 modfedd) o eira ddisgyn ar dir mewnol ddydd Mawrth, gyda hyd at 2 - 5 cm (0.8 - 2 modfedd) yn disgyn ar dir uwch.

Gallai gwyntoedd cryfion hefyd fod yn broblem, yn enwedig yn y gorllewin ac ar dir uchel.

Mae disgwyl i'r cawodydd gaeafol droi'n law yn ddiweddarach yn y dydd.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.