'Tân wedi ei gynnau'n fwriadol'
Mae`r Manic Street Preachers, Oasis, a Catatonia wedi gigio yn TJ's
Mae ymchwiliad ar y gweill wedi tân yn yr adeilad a arferai fod yn gartref i glwb nos Tj's yng Nghasnewydd yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Mae'r gwasanaethau brys yn credu bod y tân wedi ei gynnau'n fwriadol.
Aeth criwiau tân yno o Faendy, Malpas, Dyffryn a Chwmbrân, wedi'r alwad am 2.08am.
Cafodd yr adeilad roddodd lwyfan i rai o fandiau enwocaf y byd ei werthu mewn ocsiwn yn 2011.
Mae`r Manic Street Preachers, Oasis, a Catatonia wedi gigio yn TJ's ond fe gaeodd y clwb yn 2010 yn dilyn marwolaeth y perchennog.
Credir bod y tân ar drydydd llawr yr adeilad.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~14~RS~)

Addysg: 'llai o awdurdodau lleol'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?