Clyw: 'Methu â dilyn y gyfraith'

Yn ôl adroddiad mae 90% o feddygon teulu yng Nghymru yn methu â darparu dulliau eraill rhesymol i bobl fyddar i drefnu apwyntiadau.  Yn ôl adroddiad mae 90% o feddygon teulu yng Nghymru yn methu â darparu dulliau eraill rhesymol i bobl fyddar i drefnu apwyntiadau.

Straeon Perthnasol

Mae byrddau iechyd Cymru yn methu â chydymffurfio â'r gyfraith trwy beidio â darparu gwasanaethau hygyrch i bobl fyddar a thrwm eu clyw.

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi dangos bod pob un o'r byrddau iechyd wedi methu â sefydlu polisïau i wella hygyrchedd - fe ddylid fod wedi cyhoeddi'r polisïau erbyn mis Rhagfyr y llynedd.

Mae adroddiad ar wahân yn dangos bod 90% o feddygon teulu yng Nghymru yn methu â darparu dulliau eraill rhesymol i bobl fyddar i drefnu apwyntiadau.

Dywedodd cyfarwyddwr mudiad Hearing Loss Cymru, Richard Williams, nad yw byrddau iechyd yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Yn ôl Mr Williams: "Dyw pobol sy'n medru clywed ddim yn gorfod cerdded i'r feddygfa i drefnu apwyntiad neu ofyn i rywun arall i alw ar eu rhan.

"Os nad ydych yn medru defnyddio'r ffôn, mae'n dipyn o gamp i drefnu apwyntiad".

Bwcio

Wrth ymateb, dywedodd y saith bwrdd iechyd bod ganddyn nhw ddarpariaeth ar gyfer pobol fyddar - megis medru bwcio rhai apwyntiadau ar-lein a medru bwcio cyfieithwyr iaith arwyddo - ond maen nhw'n ceisio gwella mynediad i bobl fyddar a thrwm eu clyw.

Cyhoeddwyd adroddiad gan Lywodraeth Cymru - mewn cydweithrediad ag Action on Hearing Loss, Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG a mudiadau eraill - ym mis Ionawr y llynedd i wella mynediad i bobl gyda thrafferthion clyw.

Fe wnaeth adroddiad 'Gofal Iechyd Hygyrch i Bobl sydd wedi Colli Defnydd eu Synhwyrau yng Nghymru' argymell y dylai pob bwrdd iechyd sicrhau bod ganddyn nhw bolisi mewn lle i wella mynediad erbyn Rhagfyr 2012.

Does dim un o'r byrddau iechyd wedi sefydlu polisi o'r fath ac mae pob un ond un yn aros am gopi ddrafft sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn barod erbyn diwedd 2013.

Tri cham

Dywedodd Wendy Callaghan, sy'n drwm ei chlyw ac yn byw ym Medwas, ger Caerffili y byddai tri cham syml yn helpu yn fawr:

"Dylai fod cyfieithwyr iaith arwyddo ar alw. Hefyd dylid arddangos enwau ar sgriniau mewn ystafelloedd aros - mae pobol yn colli apwyntiadau oherwydd eu bod nhw ddim yn clywed eu henwau yn cael eu galw.

"Yn drydydd, os oes angen apwyntiad brys arna i, byddai'n dda pe byddai modd anfon neges destun neu e-bost."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • BBC Cymru FywGwasanaeth newydd BBC Cymru Fyw

    Mae BBC Cymru yn gwneud newidiadau i'r wefan hon wrth i wasanaeth ar-lein newydd o'r enw BBC Cymru Fyw gael ei lansio.


  • Hel achau ym MangorCyfle i hel achau ym Mhrifysgol Bangor

    Gall unrhyw un sy'n ymchwilio i hanes eu teulu gael mynediad at gronfa ddata helaeth o gofnodion yn Archifau Prifysgol Bangor.


  • Minci AmericanaiddPwy sydd wedi gweld minc?

    Cadwriaethwyr yn galw am gymorth y cyhoedd wrth geisio lleihau nifer y mincod Americanaidd er mwyn gwarchod anifail prin.


  • Portread o William ShakespeareShakespeare: 'Gwedd wahanol' i Gymru?

    A ddylid addasu Shakespeare i'r Gymraeg? Mae arbenigwyr yn rhannu eu barn wrth i'r dathliadau swyddogol ddechrau i nodi 450 o flynyddoedd ers geni'r bardd.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.