Cynllun tai Rhydaman: Ymgynghoriad newydd
Mae'r datblygwyr am godi 289 o dai ar y safle.
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr yn cynnal ymgynghoriad newydd ynghylch cais i godi cannoedd o dai ym mhentref Penybanc ger Rhydaman.
Penderfynodd y pwyllgor wrthod cynllun i godi 336 o dai ar dir Fferm Tirychen ym mis Rhagfyr yn rhannol oherwydd yr effaith ar yr iaith Gymraeg.
Mae'r datblygwyr, Swallow Properties o Berkshire, am godi 289 o dai ar y safle.
CyfrifiadMae swyddogion cynllunio wedi cael rhybudd y byddai rhaid i'r awdurdod lleol dalu costau os na fyddan nhw'n cynnal ymgynghoriad newydd.
Y disgwyl yw y bydd y pwyllgor yn trafod y cais diwygiedig o fewn wythnosau.
Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn nodi gostyngiad yn nifer pobl y sir sy'n medru'r Gymraeg.
Roedd 'na ostyngiad o 6% yn y sir.
Ond mae 'na ostyngiad o dros 10% wedi bod yn Rhydaman dros y degawd diwethaf lle mae 49.9% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg tra oedd 61.46% yn 2001.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~54~RS~)

'Sylw i Loegr' yn niweidio democratiaeth
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?