Cyfrifiad: Cadarnleoedd yn crebachu

Cefn gwlad Nid oedd un ward yn Sir Gaerfyrddin na Cheredigion lle oedd dros 70% yn siarad yr iaith yn 2011.

Mae ystadegau lleol Cyfrifiad 2011 yn dangos bod cadarnleoedd y Gymraeg yn crebachu.

Yn 2001 roedd 59 o wardiau lle oedd mwy na 70% o bobl yn siarad yr iaith ond roedd hyn wedi gostwng i 49 erbyn 2011.

Mae'r wardiau hyn yn y gogledd, un yng Nghonwy a'r gweddill yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Yr adran etholiadol lle roedd y nifer fwya' dros dair oed yn siarad Cymraeg oedd Llanrug yng Ngwynedd (87.8%).

Sir Gâr

Nid oedd un ward yn Sir Gaerfyrddin na Cheredigion lle oedd dros 70% yn siarad yr iaith yn 2011.

Ymysyg y cymunedau sydd wedi gostwng o dan 70% yn Sir Gaerfyrddin mae Pontyberem (68.8%) a Phen-y-groes (65.6%).

Mae rhai sosioieithyddwyr a chynllunwyr iaith wedi dweud bod trothwy o 70% yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod cymuned yn gynaliadwy.

Bu gostyngiad hefyd yn nifer y wardiau trwy Gymru lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg - o 192 (22% o holl wardiau Cymru) i 157 (18%) erbyn 2011.

Meri Huws Comisiynydd: Y canlyniadau'n 'her i weithredu'

Ond yn rhannau o Sir Fynwy, mae cynnydd wedi bod yn nifer y wardiau lle mae mwy na 10% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith.

Datgelwyd ym mis Rhagfyr fod 19% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yng Nghymru yn 2011, o'i gymharu â 21% yn 2001.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, fod y canlyniadau diweddara'n "her i weithredu".

'Oblygiadau'

Fe fyddai'n sefydlu Arsyllfa i graffu ar oblygiadau polisïau a chynlluniau fyddai'n effeithio ar gymunedau a siaradwyr Cymraeg.

Roedd polisi economaidd, gwaith a thai yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau, meddai.

"Nod yr Arsyllfa yw datblygu canllawiau ac argymhellion i'w cyflwyno i wneuthurwyr polisi fel y gallant weithredu'n gadarnhaol ac ymarferol mewn perthynas â'r Gymraeg.

DADANSODDIAD

Mewn un ystyr doedd canlyniadau ward wrth ward y Cyfrifiad ddim yn syndod.

Ar y cyfan mae wardiau unigol yn dilyn patrwm ardal fwy eang.

Yn sgil cyhoeddi'r ffigyrau sirol ynghylch cyflwr y Gymraeg yng Ngheredigion a Sir Gâr cyn y Nadolig fe fyddai wedi bod yn dipyn o sioc pe bai ward neu ddwy wedi llwyddo i wrthsefyll y llif.

Serch hynny, fe fydd y newydd nad oes 'na bellach un gymuned yn y de lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn loes calon i garedigion yr iaith.

Mae'n werth cymharu'r darlun a geir o'r Gymraeg heddiw a'r targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2001.

Yn Iaith Pawb (2003) fe osodwyd y nod o gynyddu canran y siaradwyr Cymraeg i 25% erbyn 2011 ac i atal y cwymp yn y nifer o ardaloedd lle oedd dros 70% yn siarad yr iaith.

Mae tair o'r pedair plaid yn y Cynulliad wedi bod mewn grym am o leiaf beth o'r amser ers cyhoeddi Iaith Pawb a thrwy gydol y cyfnod rhwng cyhoeddi'r targedau a chynnal Cyfrifiad 2011 fe gyhoeddwyd adroddiadau rheoliad yn mesur polisïau'r llywodraeth yn erbyn disgwyliadau Iaith Pawb.

Ar eu mesur eu hun felly ni ellir ond dod i'r casgliad bod Llywodraethau Cymru rhwng 2003 a 2011 wedi methu yn eu hamcanion wrth geisio diogelu'r iaith.

"Bydd yr opsiynau polisi y byddwn yn eu cyflwyno yn rhai strategol a radical a byddant wedi eu seilio ar drafodaeth ddinesig agored a thystiolaeth gadarn.

"Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn tynnu ynghyd yr wybodaeth ac ymchwil sydd eisoes ar gael, ac yn gweithio tuag at gynhyrchu a chomisiynu rhagor o ymchwil yn y maes.

"Byddwn yn edrych ar enghreifftiau o wledydd tramor ac yn cywain barn arbenigwyr mewn amrywiol feysydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwneud mwy i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

"Mae ein Strategaeth Iaith yn nodi chwe maes y mae angen canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yr iaith.

"Byddwn yn defnyddio canlyniadau'r Cyfrifiad i lywio ein gwaith ar yr iaith Gymraeg, nawr ac yn y dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ffyniant hirdymor yr iaith."

'Pryder mawr'

Dywedodd llefarydd yr Iaith Gymraeg y Ceidwadwyr, Suzy Davies AC: "Mae'r rhain yn ffigyrau siomedig sy'n dangos dirywiad o ran y gallu i siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg ac mae hwn yn codi amheuon ynghylch strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.

"Dylai strategaeth i gefnogi a meithrin yr iaith Gymraeg yn y dyfodol gydnabod fod cenhedlaeth o bobl ifanc wedi astudio'r Gymraeg yn yr ysgol ond nad ydynt yn defnyddio eu sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth a dydyn nhw ddim yn ystyried eu hunain fel siaradwyr Cymraeg.

"Mae'n rhaid i'r ffigyrau hyn gael eu defnyddio i hybu manteision a buddion dysgu a siarad Cymraeg gan gynnwys y rheiny yn y farchnad gwaith."

Iaith Pawb

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Nid yw'r targedau gafodd eu gosod gan Lywodraeth Cymru yn Iaith Pawb wedi cael eu cymryd o ddifri a does dim digon o waith yn cael ei wneud i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol.

"Mae'n rhaid inni gael trafodaeth ddifrifol ynghylch dyfodol yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg.

"Mae'r iaith Gymraeg yn berchen i bawb yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni gyd chwarae rhan i adfywio'r iaith."

Wrth ymateb i'r ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Mercher, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Wrth reswm, mae'r canlyniadau hyn yn destun pryder mawr, yn enwedig y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, lle nad oes un gymuned lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg bellach.

"Mae cymunedau o'r fath yn gwbl hanfodol i'r iaith, ac mae'r dystiolaeth ryngwladol yn gwbl eglur yn hynny o beth.

"Mae argyfwng yn wynebu'r iaith a'i chymunedau, ac mae angen i'r Llywodraeth roi polisïau newydd ar waith er mwyn sicrhau bod y Gymraeg a'i chymunedau yn ffynnu."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.