Trywanu: Carchar am anafu'n fwriadol
Cafodd Keith Williams ei garcharu am chwe blynedd a hanner
Mae dyn o Ynys Môn wedi cael ei garcharu am chwe blynedd a hanner am anafu yn fwriadol ac ymosod.
Yn Llys y Goron Caernarfon roedd Keith Williams, 55 oed o Frynsiencyn, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o anafu dyn yn ei 50au yn fwriadol ac un o ymosod ar gariad y dyn oedd hefyd yn ei 50au yn Llanfairpwll, Ynys Môn, y llynedd.
Cytunodd yr erlyniad yn y gwrandawiad blaenorol i ollwng cyhuddiad o geisio llofruddio yn erbyn Williams wedi'r digwyddiad ar gwrt blaen garej Ty'n Lon yn Llanfairpwll ym mis Medi, 2012.
Cafodd y dyn ei drywanu yn ei wddf ac fe gafodd driniaeth frys yn yr ysbyty.
Fe gafodd y fenyw ei thrywanu yn ei brest ond cafodd fynd adre o'r ysbyty.
Wedi'r ddedfryd dywedodd Cwnstabl Trystan Davies o Heddlu'r Gogledd: "Rwy'n credu bod hyn yn gyrru neges glir na fyddwn yn diodde' trais domestig y ein cymunedau.
"Fe wnaeth yr ymateb cyflym i'r digwyddiad, lle cafodd y diffynnydd ei arestio yn y fan a'r lle, atal mwy o niwed.
"Hoffwn ganmol y ddau ddioddefwr am eu dewrder yn ystod yr achos."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~27~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Cyhoeddi enw'r milwr gafodd ei ladd
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith