Ffermwr wedi ei sathru gan darw

Mae ffermwr wedi marw wedi iddo gael ei sathru gan darw ar ei fferm yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd David Stephens, 55 oed, yn cynnal profion diciâu ar ei fuches laeth ar ei fferm ger Cydweli.

Galwodd milfeddyg oedd gydag e'r gwasanaethau brys, ac fe gludwyd Mr Stephens ar frys i Ysbyty Treforys.

Er gwaethaf ymdrechion meddygon i'w achub, bu farw o anafiadau difrifol i'w frest wedi'r digwyddiad ym mhentref Llandyfaelog.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r digwyddiad ochr yn ochr â Heddlu Dyfed Powys.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys lle bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau.

"Mae crwner Abertawe wedi cael ei hysbysu ynghyd â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch."

Dywedodd llefarydd ar ran crwner Abertawe ei fod yn disgwyl am ganlyniadau archwiliad post mortem cyn agor cwest i'r farwolaeth yr wythnos nesaf.

Mae Mr Stephens yn gadael gwraig a thri o blant rhwng 23 a 30 oed.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.