Iwerddon werth miliynau i economi Cymru yn ôl Carwyn Jones
Mae'r Weriniaeth yn allweddol i economi Cymru yn ôl Carwyn Jones
Caiff cwmnïau o Weriniaeth Iwerddon eu hannog i fuddsoddi yng Nghymru gan Brif Weinidog Cymru.
Dyna brif neges araith Carwyn Jones i arweinwyr busnes yn Nulyn ddydd Gwener.
Bydd yn pwysleisio'r ffaith mai Iwerddon yw ail farchnad allforio fwyaf Cymru, sydd werth dros £1.5 biliwn y flwyddyn.
Dywed y dylai'r ddwy wlad gryfhau eu cysylltiadau busnes ac "annog adfywio a sbarduno twf".
Fe ddaw ei araith ar ail ddiwrnod ei ymweliad a'r Weriniaeth.
Mae Mr Jones yn annerch cynhadledd flynyddol gyntaf y Siambr Fasnach Brydeinig-Wyddelig.
'Lleoliad perffaith'Ac fe ddaw ddiwrnod ar ôl cynnal trafodaethau gydag Arlywydd y Weriniaeth, Michael Higgins, ddydd Iau.
"Rwy'n falch iawn o'n llwyddiant o ran denu mewnfuddsoddiad mewn sectorau fel bwyd, gweithgynhyrchu ac ynni.
"Mae Cymru mewn lleoliad perffaith - rydyn ni'n agos i Iwerddon ac yn cynnig mynediad i farchnad y DU."
Diwrnod ar ôl i David Cameron addo refferendwm ar aelodau Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd petai'r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad nesaf, pwysleisiodd Mr Jones bwysigrwydd y Farchnad Sengl i ffyniant Cymru ac Iwerddon.
"Er gwaetha'r cyfnod heriol iawn hwn, rwy'n gryf o'r farn mai'r ffordd orau o ddod drwy'r tywydd stormus yw drwy ddod ynghyd o dan faner yr Undeb Ewropeaidd a'r Farchnad Sengl.
"Drwy ganolbwyntio ar gryfhau'r cysylltiadau busnes rhwng y ddwy wlad, gallwn annog adfywio a sbarduno twf."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~32~RS~)

Jill Evans ar frig y rhestr
Elusen: 'Mwy o ddigwyddiadau'
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf