Cyflogau Gwynedd: Protest gan weithwyr cyngor

Mae Cyngor Gwynedd wedi amddiffyn y penderfyniad i roi codiad cyflog i uwch-reolwyr

Straeon Perthnasol

Mae 200 o aelodau undeb Unsain ar Gyngor Gwynedd yn protestio yn erbyn penderfyniad i roi codiad cyflog o hyd at 7% i uwch-reolwyr.

Dywedodd Unsain eu bod yn anhapus ynglŷn â'r cynnig oherwydd bod eu haelodau wedi gorfod colli swyddi a bod cyflogau wedi eu rhewi wrth i'r cyngor geisio arbedion.

Fe adawodd aelodau eu gwaith am 12.30pm a chynnal protest yn ystod eu hawr ginio.

"Fe fyddwn hefyd yn lobïo cyfarfod o'r cyngor sy'n cael ei gynnal ddydd Iau," meddai Silyn Roberts, ysgrifennydd cangen Unsain Gwynedd.

"Mae'r neges yn glir, dyw o ddim yn dderbyniol fod uwchreolwyr yn cael codiadau cyflog tra bod y rhan fwyaf o weithwyr cyngor yn wynebu telerau gwaith llai ffafriol."

Yn ôl yr undeb, mae cyflogau eu haelodau wedi eu rhewi ers tair blynedd.

Sector gyhoeddus

Mae'r cyngor wedi amddiffyn y penderfyniad i roi codiad cyflog i dri chyfarwyddwr corfforaethol ac 11 o benaethiaid gwasanaethau.

Dywedodd llefarydd fod y cyngor yn dilyn ymarfer awdurdodau eraill wrth gysylltu tâl prif swyddogion â meincnod annibynnol ar gyfer y sector gyhoeddus.

Cyflogau newydd

  • Prif weithredwr - uchafswm o £108,264 (dim newid)
  • Cyfarwyddwr Corfforaethol - uchafswm o £88,960
  • Pennaeth Gwasanaeth (Gradd HSI) - uchafswm o £59,353
  • Pennaeth Gwasanaeth (Gradd HS2) - uchafswm o £70,263
  • Pennaeth Gwasanaeth (Gradd HS3) - uchafswm o £75,511

Ffynhonnell: Cyngor Gwynedd

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Harry Thomas: "Mae'r ffeithiau yn dangos nad yw Cyngor Gwynedd yn gyflogwr gor-hael ar gyfer prif swyddogion o'i gymharu â chyflogwyr sector gyhoeddus eraill.

"Ond rydym angen cynnal lefelau tâl rhesymol er mwyn cyd-fynd ag ymrwymiadau cytundebol a chyd-fynd â pholisi tâl y cyngor."

Mae cost y pen ar gyfer prif swyddogion yng Ngwynedd yn parhau yn is na'r mwyafrif o awdurdodau Cymru.

Dywedodd y cyngor nad oed yr uwchraddiad diweddar wedi effeithio ar dâl y prif weithredwr a'i fod yr un fath ag yr oedd yn 2008.

Roedd y cynnydd i benaethiaid gwasanaethau yn amrywio o £1,042 i £5,094, er enghraifft cafodd penaethiaid statudol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg gynnydd o £3,311, o £72,200 i £75,511.

Ar gyfer cyfarwyddwyr corfforaethol roedd cynnydd o £5,839, o £83,121 i £88,960.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.