Achub dau o lethrau mynydd yn Eryri

Mae Tîm Achub Dyffryn Ogwen wedi achub dau ar un o fynyddoedd Eryri ar ôl ymgyrch chwe awr.

Daeth yr ymgyrch i ben am 11.30pm nos Fawrth.

Roedd y dynion o'r Amwythig yn gwersylla mewn pabell ar waelod llethrau Mynydd Tryfan cyn mynd i drafferthion ar y mynydd 3,000 troedfedd o uchder.

Roedd dyn arall wedi llwyddo i gyrraedd gwaelod y mynydd cyn cysylltu â'r tîm achub.

Dywedodd y tîm achub fod y dynion wedi mynd am dro ar y mynydd heb dortsh na chyfarpar cywir.

"Roedd y ddau'n falch iawn i'n gweld ni," meddai Chris Lloyd o'r tîm achub.

"Roedden nhw'n oer ond doedden nhw ddim wedi cael anafiadau."

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.