Cyngor Ceredigion yn cau swyddfeydd rhanbarthol

Cwsmer mewn swyddfa bost Mae'r cyngor am ofyn i swyddfeydd post lleol gadw ffurflenni'r cyngor

Straeon Perthnasol

Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi penderfynu cau tair o'u swyddfeydd rhanbarthol fel rhan o gynllun i arbed £86,000.

Cymeradwyodd y cabinet adroddiad y cyfarwyddwr cyllid, W Gwyn Jones, oedd yn argymell cau swyddfeydd yn Nhregaron, Cei Newydd ac Adpar ger Castell Newydd Emlyn.

Daeth y cais ar ôl cynnydd o 450% o ran taliadau ar y we a 3,200% dros y ffôn a gostyngiad o tua 35% yn nifer y taliadau yn eu swyddfeydd ers 2006.

Roedd Mr Jones wedi amcangyfrif fod y gost fesul taliad yn y swyddfeydd rhwng £1.43 a £4.58 tra oedd cost o 50c mewn swyddfeydd post.

'Cynnydd dramatig'

Cost fesul taliad

  • Adpar £4.58
  • Llandysul £3.01
  • Tregaron £2.91
  • Aberaeron £2.18
  • Llanbed £1.74
  • Aberteifi £1.56
  • Aberystwyth £1.43

Ffynhonnell: Cyngor Ceredigion

Yn ôl yr adroddiad, penderfynodd y cyngor gadw'r holl swyddfeydd yn agored yn 2006 ac ymestyn yr opsiynau talu drwy ffurfio cytundeb i ganiatáu i denantiaid, trethdalwyr a threthdalwyr busnes wneud eu taliad yn unrhyw swyddfa bost.

O ganlyniad, roedd gostyngiad o tua 35% yn nifer y taliadau a dderbyniwyd gan y swyddfeydd.

Yn ôl yr adroddiad, "roedd cynnydd dramatig yn y taliadau a wneir dros y rhyngrwyd a'r ffôn".

Gwnaethpwyd 7,491 o daliadau ar y rhyngrwyd yn 2011-12 o'i gymharu â 1,641 yn 2005-06 a chynyddodd y taliadau ffôn o 161 yn 2005-06 i 5,178 erbyn 2011-12.

Dywedodd Mr Jones: "Rwyf o'r farn na ellir cyfiawnhau parhau i redeg y swyddfeydd yn y modd presennol."

Swyddfeydd post

Argymhellodd yr adroddiad ofyn i'r swyddfeydd post lleol gadw ffurflenni cyngor a ddefnyddir yn rheolaidd.

Bydd y llyfrgell a'r swyddfa leol yn darparu pwynt gwasanaethu cwsmeriaid yn Llanbed a Llandysul.

Bydd gwasanaethau yn cael eu cyfuno mewn un pwynt yn swyddfa'r sir yn Aberaeron wedi ailwampio fydd yn dod i ben erbyn mis Ebrill.

Dywedodd yr adroddiad fod y cyngor eisoes wedi cyflwyno ciosg talu hunanwasanaeth yn y swyddfeydd yn Aberteifi a Chanolfan Rheidol, Aberystwyth ac y byddai hyn yn arbed arian o ran staffio.

Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell ad-drefnu gwasanaethau yn swyddfeydd y cyngor yn Aberteifi, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Chanolfan Rheidol yn Aberystwyth.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.