Cyfarwyddwr: Menter yn dod i ben
Agorwyd Canolfan Cywain yn 2008
Mae cyfarwyddwyr Antur Penllyn wedi cadarnhau fod gwaith y fenter wedi dod i ben.
Ddydd Llun, yn dilyn ymchwiliad gan adran newyddion BBC Cymru, datgelwyd bod canolfan bywyd gwledig Cywain ger y Bala yn cau yn barhaol.
Antur Penllyn oedd yn gyfrifol am y ganolfan a gaeodd lai na phum mlynedd ers iddi agor ei drysau ar gost o filiynau o bunnoedd i'r pwrs cyhoeddus.
Bydd holl asedau ac arian Antur Penllyn yn cael eu trosglwyddo i sefydliadau eraill yn ardaloedd y Bala a Phenllyn, fydd ag amcanion tebyg i'r asiantaeth.
'Prosiectau llwyddiannus'Ddydd Mawrth, dywedodd datganiad gan gyfarwyddwyr Antur Penllyn: "Ers Hydref 2011 mae cyfarwyddwyr Antur Penllyn wedi bod yn ceisio cael tenant newydd i ymgymryd â rhedeg Canolfan Cywain.
"Yn anffodus, er hysbysebu helaeth a chymorth gan Gyngor Gwynedd, ni ddaeth yr un cais cadarn i law.
"Felly, yn unol ag amodau'r brydles, trosglwyddwyd yr adeilad yn ôl i'r tirfeddiannwr ar Hydref 1, 2012.
"Sefydlwyd Antur Penllyn yn 1989 ac yn ystod y 24 mlynedd ers hynny bu'n gweithredu ar nifer fawr o brosiectau llwyddiannus.
"Serch hynny, penderfynodd y cyfarwyddwyr fod eu cyfnod wedi dod i ben.
"Trosglwyddir yr holl asedau ac arian Antur Penllyn, yn unol â memorandwm y cwmni, i 'sefydliad yn ardal Y Bala a Phenllyn yn Sir Gwynedd a fydd ag amcanion cyffelyb'."
"Byddai'r cyfarwyddwyr yn barod iawn i fod o gymorth i unrhyw ymchwiliad swyddogol i weithgareddau Antur Penllyn a Chanolfan Cywain."
Codi cwestiynauPan agorwyd Canolfan Cywain yn 2008, y bwriad oedd dadansoddi treftadaeth gyfoethog ardal Penllyn, ac fe dderbyniodd y cynllun dros £2 filiwn o arian cyhoeddus gan gynnwys £200,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, £35,000 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a £21,000 gan Gyngor Gwynedd er mwyn cynnal Ffair Wledig ar y safle.
Roedd siop, caffi a gofod ar gyfer arddangosfeydd hefyd yn rhan o'r datblygiad.
Ond erbyn Medi 2011, roedd y drysau wedi cau, a'r cyfarwyddwyr yn chwilio am rywun i redeg y ganolfan.
Mae'r mater wedi codi cwestiynau yn yr ardal am werth y cynllun.
Ddydd Llun dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Antur Penllyn wedi derbyn cyllid i sefydlu'r ganolfan ar gyfer digwyddiadau celfyddydol a threftadaeth yn Y Bala.
"Fe fyddwn ni'n gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru i edrych ar y manylion llawn o gymeradwyo arian i'r prosiect yma.
"Fe fydd yn amhriodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~32~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Llys: Gwadu ei fod yn bidoffeil
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith