Canolfan wedi cau o fewn pum mlynedd
Adroddiad Sion Tecwyn
Llai na phum mlynedd ers i ganolfan bywyd gwledig ger y Bala agor ei drysau, mae ymchwiliad gan adran newyddion BBC Cymru wedi canfod fod Canolfan Cywain wedi cau.
Agorwyd y ganolfan ar gost o filiynau o bunnoedd o arian cyhoeddus.
Asiantaeth leol, Antur Penllyn, oedd yn gyfrifol am y ganolfan, ond mae'r adeilad bellach wedi ei drosglwyddo yn ôl i berchennog gwreiddiol y safle, ac mae galwadau yn lleol am ymchwiliad i'r hyn aeth o'i le.
Mae BBC Cymru hefyd yn deall bod dyfodol Antur Penllyn ei hun o dan fygythiad, ac mae cyfarwyddwyr y fenter yn cyfarfod nos Lun i drafod y posibilrwydd i ddirwyn yr asiantaeth i ben.
Cwestiynau“Start Quote
End Quote Sydna Owen Hen Siop FrongochPam bod angen cymaint o arian i wneud y math yma o beth? I'r bobl ydym ni'n siarad â nhw, maen nhw'n chwerw iawn bod y ffasiwn arian wedi cael ei wastraffu”
Pan agorwyd Canolfan Cywain yn 2008, y bwriad oedd dadansoddi treftadaeth gyfoethog ardal Penllyn, ac fe dderbyniodd y cynllun dros £2 filiwn o arian cyhoeddus gan gynnwys £200,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, £35,000 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a £21,000 gan Gyngor Gwynedd er mwyn cynnal Ffair Wledig ar y safle.
Roedd siop, caffi a gofod ar gyfer arddangosfeydd hefyd yn rhan o'r datblygiad.
Ond erbyn Medi 2011, roedd y drysau ar gau, a'r cyfarwyddwyr yn chwilio am rywun i redeg y ganolfan.
Daeth neb i'r adwy, ac mae ymchwiliad BBC Cymru wedi darganfod fod Antur Penllyn bellach wedi rhoi'r gorau i'r cynllun a throsglwyddo'r brydles a holl asedau ac adeiladau'r ganolfan yn ôl i'r perchennog gwreiddiol - sef Stad Rhiwlas - ar Hydref 1, 2012.
Mae'r mater wedi codi cwestiynau yn yr ardal am werth y cynllun.
'Gwastraff'Mae Sydna Owen yn gweithio yng nghaffi'r Hen Siop yn Frongoch ger Y Bala, ac mae'n credu bod y cyfan wedi gadael blas chwerw yn yr ardal.
"Mae'n anhygoel faint o arian gafodd ei ddefnyddio i ddechrau," meddai.
Erbyn Medi 2011, roedd drysau'r ganolfan newydd wedi cau
"Pam bod angen cymaint o arian i wneud y math yma o beth? I'r bobl ydym ni'n siarad â nhw, maen nhw'n chwerw iawn bod y ffasiwn arian wedi cael ei wastraffu - gwastraff llwyr - ac mae'r lle fel rhyw eliffant gwyn yng nghanol fanna oedd ddim, yn ein barn ni, yn y lle iawn chwaith."
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru fod ganddyn nhw gytundeb cyfreithiol gyda'r tirfeddianwyr i sicrhau y gall y cyhoedd ymweld â'r gwaith celf ar y safle, a bod y cytundeb yn weithredol y tu hwnt i oes y ganolfan.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, fe gefnogodd y cyngor gyfarwyddwyr Antur Penllyn i geisio dod o hyd i gyrff eraill i gymryd rheolaeth o'r ganolfan, ac er y bu peth diddordeb yn y dechrau, ni dderbyniwyd unrhyw gynigion ffurfiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Antur Penllyn wedi derbyn cyllid i sefydlu'r ganolfan ar gyfer digwyddiadau celfyddydol a threftadaeth yn Y Bala.
"Fe fyddwn ni'n gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru i edrych ar y manylion llawn o gymeradwyo arian i'r prosiect yma.
"Fe fydd yn amhriodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Doedd neb o blith cyfarwyddwyr Antur Penllyn yn fodlon gwneud cyfweliad gyda'r BBC, ond mae'r BBC ar ddeall fod y cyfarwyddwyr yn cyfarfod nos Lun i drafod y posibilrwydd o ddod ag Antur Penllyn i ben hefyd.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~15~RS~)

Jill Evans ar frig y rhestr
Elusen: 'Mwy o ddigwyddiadau'
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf