Galw am gael cyffur yng Nghymru

Kalydeco tablets Mae Kalydeco ar gael yn Lloegr yn barod, ac ar gael yn Yr Alban o Fawrth 1.

Straeon Perthnasol

Mae elusen blaenllaw wedi galw am gael cyffur arbennig gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Ers Ionawr 1 eleni, mae'r cyffur Kalydeco wedi bod ar gael yn Lloegr ar gyfer cleifion gyda math arbennig i ffibrosis sistig, ond nid yw ar gael yng Nghymru.

Mae prif weithredwr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Sistig, Ed Owen, wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, i ddweud y byddai dal yr arian yn ôl i ariannu Kalydeco (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ivacaftor) yng Nghymru tan fis Mai yn achosi "torcalon a phoen" i deuluoedd.

Mae Mr Owen yn annog Mrs Griffiths i ymyrryd er mwyn cyflymu'r broses o gymeradwyo'r cyffur ar gyfer cleifion yng Nghymru.

'Sefyllfa arwsydus'

Start Quote

Fel y corff sy'n cynrychioli pobl gyda ffibrosis sistig ar draws y DU, mae sefyllfa lle mae pobl yng Nghymru yn cael eu gwrthod am gyffur sydd ar gael yn Lloegr a'r Alban yn un arswydus”

End Quote Ed Owen Ymddiriedolaeth Ffibrosis Sistig

Yn dilyn penderfyniad gan gomisiynwyr y GIG yn Lloegr ar Ragfyr 18 y llynedd, fe fydd Kalydeco ar gael i bawb dros chwech oed gyda'r cyflwr ffibrosis sistig G551D.

"Rydym yn bryderus iawn gan nad oes disgwyl i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ddod i benderfyniad fan fis Mai, fe fydd cleifion o Gymru yn wynebu aros am bedwar mis mewn cyfnod pan mae'r cyffur ar gael yn rhad ac am ddim o fewn GIG Lloegr.

"Mae'r sefyllfa yn achosi torcalon a phoen i deuluoedd sy'n diodde' yng Nghymru, yn enwedig gan fod penderfyniad yr wythnos hon yn Yr Alban yn golygu y bydd cleifion yn yr Alban yn medru cael y cyffur o Fawrth 1.

"Fel y corff sy'n cynrychioli pobl gyda ffibrosis sistig ar draws y DU, mae sefyllfa lle mae pobl yng Nghymru yn cael eu gwrthod am gyffur sydd ar gael yn Lloegr a'r Alban yn un arswydus."

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi ymgyrchu i sicrhau bod Kalydeco ar gael ar draws y DU, ac wedi annog y gwneuthurwyr, Vertex, i'r ddarparu ar gost fforddiadwy i'r GIG.

Kalydeco yw'r cyffur cyntaf sy'n trin nam sylfaenol sydd gan bobl gyda ffibrosis sistig.

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe ddechreuodd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan asesu ivacaftor (Kalydeco) cyn gynted ag y dechreuodd y cwmni ar y broses o werthuso'r cynnyrch.

"Mae'r broses yma yn cael ei gydnabod fel un cadarn ac fe all gymryd rhyw 21 wythnos fel arfer er mwyn caniatáu o bawb, gan gynnwys sefydliadau cleifion i roi sylwadau.

"Mae disgwyl i'r penderfyniad terfynol ar Kalydeco gael ei wneud mewn cyfarfod cyhoeddus ar Fai 8, 2013."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.