Yr eira sy'n newyddion da

Morlwyau Danaidd Dim ond yn gymharol ddiweddar y mae'r morlwyau Danaidd wedi symud o'r arfordir

I un planhigyn bach, mae'r tywydd oer a'r eira yn newyddion cadarnhaol.

Wrth i'r tymheredd ostwng, bydd y peiriannau graeanu sy'n dosbarthu halen ar y ffyrdd yn helpu i'r morlwyau Danaidd (Cochlearia danica) ffynnu.

Dim ond ar arfordir Prydain yr arferai'r blodyn bach gwyn dyfu. Ond ers y 1980au, mae wedi lledaenu ledled Prydain yn gyflymach nag unrhyw blanhigun arall bron.

Cawn wybod mwy am gyfrinach llwyddiant y planhigyn yma gan Dr Trevor Dines o Lanrug, sy'n wyneb newydd rhaglen natur Wild Things ar Channel 4, a gynhyrchwyd gan Cwmni Da yng Nghaernarfon.

Tirwedd hallt

Start Quote

Fel arfer, os wnewch chi luchio halen ar blanhigyn bydd y dail yn marw o fewn munudau. Ond mae 'na rywbeth arbennig yng nghemeg y planhigyn yma sy'n gwneud iddo ffynnu mewn cynefin hallt”

End Quote Dr Trevor Dines Plantlife Cymru, Bangor

Mae'r tîm cynhyrchu wedi ffilmio enghraifft o'r planhigyn ar glogwynau Traeth Coch ar Ynys Môn.

Ond yn 1980, sylweddolodd un arbenigwr fod y planhigyn yn tyfu ar ochr y ffordd ger Caergrawnt, ac erbyn heddiw, mae'n bosib gweld y blodau bach gwyn ar ochr ffyrdd ledled Prydain ym misoedd Mawrth ac Ebrill.

Ond roedd y rheswm am hyn yn ddirgelwch tan i arbenigwyr sylweddoli bod y morlwyau Danaidd, sy'n hoffi tirwedd hallt, yn ffynnu wrth i'r ffyrdd cael eu paratoi ar gyfer tywydd oer.

Ers y 1960au, mae halen wedi cael ei ddefnyddio i atal damweiniau oherwydd rhew ac eira. Mae dros ddwy filiwn o dunnelli yn cael eu lledaenu dros ffyrdd Prydain yn flynyddol.

Mae hyn, felly, wedi creu cynefin ardderchog ar gyfer y planhigyn.

Dr Trevor Hines Mae Dr Trevor Dines yn gyfrifol am ddiogelu planhigion prin yng Nghymru
Planhigion annisgwyl

Dywedodd Dr Trevor Dines o sefydliad cadwraeth Plantlife ym Mangor:

"Dwi'n sicr wedi gweld y morlwyau Danaidd ar strydoedd Caerdydd, Bangor ac Abertawe ac ar hyd yr A55.

"Fel arfer, os wnewch chi luchio halen ar blanhigyn bydd y dail yn marw o fewn munudau. Ond mae 'na rywbeth arbennig yng nghemeg y planhigyn yma sy'n gwneud iddo ffynnu mewn cynefin hallt.

"Wrth iddyn nhw raeanu'r ffyrdd, cawn rywbeth o'r enw llosg halen, a bydd yr holl fywyd gwyllt ar y stribyn o bridd ar hyd y lonydd yn marw. Mae'r morlwyau Danaidd wedi gallu manteisio ar hyn ac wedi symud i ffwrdd o'r arfordir.

"Gyda bron bob tŷ, pentref, tref a dinas nawr wedi eu cysylltu gan ffyrdd, mae'n bosib i blanhigion ymuno â ni ar ein siwrne," meddai.

"Mae rhai hadau yn mynd yn sownd i'n teiars am filltiroedd tra bod eraill yn cael eu chwythu ar hyd y ffyrdd gan gerbydau.

"Mae lot fawr o blanhigion newydd yn ymddangos ac yn ymledu ar hyd ochrau ein ffyrdd ac maent yn lleoedd gwych i ddod ar draws pethau annisgwyl."

Llwyddodd Dr Dines a'r tîm ffilmio'r planhigyn ar ochr yr M6 ar gyfer y gyfres, a oedd yn cychwyn ar nos Lun, Ionawr 21.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.