Achos yr Wyddfa: Dim diffynnydd yn bresennol
Cafwyd hyd i'r cerbyd gyriant pedair olwyn ddwywaith ar gopa'r Wyddfa
Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn dyn yrrodd ei gerbyd i gopa'r Wyddfa ddwywaith - er ei fod yn absennol o'r llys.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Craig Williams, 40 oed o Cheltenham, yn gwadu dau gyhuddiad o yrru'n beryglus.
Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes y byddai'n rhaid i'r achos barhau hebddo.
Honnwyd fod Mr Williams wedi gyrru ei gerbyd gyriant pedair olwyn Vauxhall Frontera ar lwybr cyhoeddus a llwybr rheilffordd yr Wyddfa ym Medi 2011 a hefyd fis yn ddiweddarach.
Ar Fedi 3 daeth staff Rheilffordd yr Wyddfa o hyd i'r cerbyd gyriant pedair olwyn ger copa'r Wyddfa.
HoliYn fuan wedi i'r heddlu gyrraedd, meddai'r erlynydd, aeth y diffynnydd atyn nhw a dweud iddo yrru'r cerbyd i fyny'r mynydd.
Cafodd ei holi a'i ryddhau ar fechnïaeth.
Ar Fedi 29 daethpwyd o hyd i'r cerbyd fwy neu lai yn yr un lle ac roedd arwyddion mewn ffenest yn dweud: "Fe gyrhaeddais i'r gopa".
Honnodd yr erlyniad fod y diffynnydd wedi cael "pwl o hurtrwydd nid unwaith ond dwywaith".
Roedd yr hyn wnaeth e wedi peryglu ei hun ac eraill, meddai.
Mae'n debyg y bydd yr achos yn para am ddau ddiwrnod a hanner.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~10~RS~)

Mesurau i wella ymwybyddiaeth mewnfudwyr?
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp