Cwpan Capital One: Chelsea 0-2 Abertawe

Michu Michu yn dathlu ei gôl yn erbyn Chelsea

Straeon Perthnasol

Chelsea 0-2 Abertawe

Abertawe sydd â mantais o ddwy gôl ar ôl ennill cymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan Capital One yn erbyn Chelsea.

Daeth dwy gôl hwyr i'r Elyrch, un yn yr hanner cyntaf a'r ail yn y munudau ola'.

Er mai Abertawe enillodd yn Stamford Bridge, Chelsea oedd y meistri o ran y chwarae.

Fe wnaeth y tîm cartref greu sawl cyfle yn ystod y gêm ac fe wnaeth Gerhard Tremmel arbedion allweddol wrth i Abertawe amddiffyn.

Un cyfle greodd Abertawe yn yr hanner cyntaf, un cyfle ac un gôl a ddaeth saith munud cyn yr hanner.

Roedd Nascimento Ramires a Juan Mata wedi cael sawl cyfle i roi Pencampwyr Ewrop ar y blaen.

Camgymeriadau

Ond Miguel Michu wnaeth ganfod y rhwyd ar ôl camgymeriad gan Branislav Ivanovic oedd wedi cael cyffyrddiad gwael.

Doedd 'na ddim gobaith i gôl-geidwad Chelsea, Ross Turnbull, wrth i'r gôl ddod yn erbyn llif y chwarae.

Dyma 16eg gôl Michu y tymor yma.

Taith Abertawe i'r rownd gynderfynol

  • Rownd 2: 3-1 gartref yn erbyn Barnsley
  • Rownd 3: 3-2 oddi cartref yn erbyn Crawley
  • Rownd 4: 3-1 oddi cartref yn erbyn Lerpwl
  • Rownd Wyth Olaf: 1-0 gartref yn erbyn Middlesbrough

Wedi sawl cyfle yn yr ail hanner, methu manteisio wnaeth Chelsea.

Ac fe ddaeth ail gyfle Yr Elyrch funud wedi'r 90 a Danny Graham yn cymryd y cyfle.

Unwaith eto, camgymeriad Ivanovic oedd yn ceisio pasio'r bêl i'w geidwad, yn rhoi cyfle i'r eilydd fynd heibio'r golwr.

Dyma bedweredd gêm Graham mewn pedair gêm.

Roedd 'na gyfle hwyr i Chelsea gael gôl wrth i Demba Ba ganfod cefn y rhwyd ond roedd yn cam-sefyll.

Gydag Abertawe heb ildio gôl fe fydd yn rhoi hyder i'r ymwelwyr a fydd croesawu Chelsea i Stadiwm Liberty ymhen pythefnos ar gyfer yr ail gymal.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.