Canllawiau 'annigonol' ar long

Bad Achub yr RNLI Roedd pump o fadau achub lleol yn rhan o'r chwilio am Steven Robertson

Straeon Perthnasol

Bu farw pysgotwr wrth ddisgyn i'r môr o long oedd heb ganllawiau digon uchel ar ei dec, yn ôl adroddiad newydd.

Disgynnodd Steven Robertson, 25 oed, o fwrdd y St Amant ger arfordir Ynys Môn ar Ionawr 13, 2012. Nid oedd yn gwisgo siaced achub.

Yn adroddiad yr Uned Ymchwilio i Ddamweiniau Morol, dywedwyd bod asesiadau risg er mwyn gweithio ar y llong yn annigonol, ac nad oedd mesurau allai fod wedi atal y ddamwain wedi cael eu gweithredu.

Doedd gorchymyn eithrio ar gyfer uchder canllawiau'r dec ar y llong heb gael ei adolygu chwaith, medd yr adroddiad.

Hofrenyddion

Roedd y St Amant wedi gadael Caergybi er mwyn pysgota am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion pan ddigwyddodd y ddamwain.

Diflannodd Mr Robertson o fwrdd y llong rhwng 12:45am a 1:45am, ond welodd neb mohono yn disgyn i'r dŵr.

Er gwaetha' ymgyrch gan hofrenyddion yr awyrlu a'r heddlu a phum bad achub, ni chafwyd hyd iddo.

Dywed yr adroddiad mai'r tebygrwydd yw ei fod wedi disgyn dros y canllaw ar y dec, neu wedi baglu ar offer pysgota oedd ar y dec.

Dangosodd yr ymchwiliad bod y llong wedi derbyn caniatâd i weithredu heb gyd-fynd â rheolau am uchder y canllaw, ond y dylai'r penderfyniad yna fod wedi cael ei adolygu yn unol â gweithdrefnau Asiantaeth Gwylwyr y Glannau (MCA).

Ers y digwyddiad, mae'r MCA wedi ysgrifennu at berchnogion y St Amant i fynnu bod uchder y canllaw yn codi.

Fe ddaeth i'r amlwg hefyd bod nifer o fethiannau a ddaeth i'r amlwg mewn archwiliadau blaenorol o'r llong heb gael eu cywiro, ac mae'r adroddiad wedi argymell y dylai perchennog y llong weithredu i wella diogelwch ar fwrdd y St Amant, ac i godi ymwybyddiaeth y criw o'r peryglon.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.