'Cynnig arbennig'
Ymfudodd teulu Fred Crowe i Ganada ar Fehefin 19 1925
Mae perchennog sinema yn Wrecsam yn dathlu cysylltiad y dref gyda'r actor Russell Crowe drwy roi cynnig arbennig i aelodau teulu yn yr ardal.
Roedd hen daid yr actor, Willam Fred Crowe, yn arfer rhedeg siop ffrwythau yn y dref cyn i'r teulu symud i fyw i Ganada.
Bydd y pump cyntaf sy'n gallu profi eu bod yn perthyn yn cael mynediad am ddim i sinema Odeon Wrecsam i wylio ffilm ddiweddara'r actor, Les Misérables.
Ar ddechrau'r 20fed Ganrif roedd William Fred a'i wraig Kezia yn rhedeg siop Crofruit yn Wrecsam.
ColledYn ôl y papur lleol, roedd yna lawer o golled pan benderfynodd y cwpwl a'u 12 o blant ymfudo i Ganada.
Cafodd Russell Crowe ei eni yn Seland Newydd
Ond arhosodd un o'r meibion, John Crowe - taid Russell - gartre' i edrych ar ôl y busnes teuluol.
"Daeth ei frawd hŷn, Frank, yn ôl o Ganada yn 1927 i helpu John gyda'r busnes, " meddai Andy Elvis, rheolwr yr Odeon.
"Yna ymfudodd John i Seland Newydd pan briododd a chafodd ddau fab - David ac Alex, tad Russell."
'Awstralia'"Symudodd y teulu i Awstralia pan roedd Russell yn blentyn ond arhosodd Frank yn Wrecsam.
Aelod o deulu Frank yw Hilary Betts, athrawes yng Nghroesoswallt.
"Dechreuodd Crofruit ddod i ben pan fu farw fy nhad yn 1986," meddai.
"Dwi ddim yn sicr beth mae Russell yn gwybod am y busnes.
"Ond mae o yn sicr yn ymwybodol o'i wreiddiau yn Wrecsam gan ei fod wedi sôn amdano mewn sgwrs ar y we rywbryd."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~23~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Awyren yn syrthio gan anafu tri
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Mwy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i'r anabl