Deiseb i achub siopau elusennol

Siop elusennol Mae disgwyl i’r Llywodraeth wneud penderfyniad yn y gwanwyn

Mae elusennau yn rhybuddio y gallai siopau elusen gau ac fe allai 700 o swyddi llawn amser a 9,000 o swyddi rhan amser fod mewn peryg pe bai cynlluniau i newid y dreth fusnes yn dod i rym.

Cafodd deiseb ei chyflwyno ddydd Mercher yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod cynigion i newid y dreth fusnes.

Ar hyn o bryd mae elusennaui yn talu llai o dreth na busnesau eraill ar eu siopau.

Yn 2012 fe wnaeth Gweinidog Busnes Cymru Edwina Hart ofyn am adolygiad o drethi busnes.

Ymhlith yr argymhellion oedd cyfyngu gostyngiadau i 50% i siopau elusennol.

Ar hyn o bryd maen nhw yn derbyn gostyngiadau o hyd 80%.

Roedd yr argymhellion hefyd yn awgrymu cyfyngu'r nifer o siopau mewn un dref sy'n derbyn y gostyngiad.

Start Quote

Petai'r awgrym yn cael ei dderbyn bydd siopau'n cau ”

End Quote Lila Hains Oxfam

Un o'r elusennau sy'n cefnogi'r ddeiseb yn gwrthwynebu'r newid yw Oxfam.

Yn ôl Lila Hains, swyddog polisi Oxfam yng Nghymru, mae nifer fawr o reolwyr siopau wedi dweud na fyddent yn gallu cadw ar agor pe bai trethi busnes yn codi.

"Mae maint y trethi yn gwneud byd o wahaniaeth i siopau elusennol yn arbennig i elusennau llai sy'n dibynnu bron yn llwyr ar yr elw yma," meddai.

"Mae ein siopau yn cynnig llawer mwy na phrynu a gwerthu.

"Maen nhw'n yn cynnig cyfle i bobl wirfoddoli, yn enwedig i bobl hŷn sydd wedi ymddeol ac angen rhywbeth i gadw nhw i fynd. Maen nhw wedyn yn rhannu eu sgiliau gyda phobl sydd angen profiad gwaith - yn rhad ac am ddim i'r llywodraeth."

Yn ôl yr adolygiad a gomisiynwyd gan lywodraeth Cymru, mae yna duedd i glystyrau o siopau elusennol agor ar rai prif strydoedd, gan gymryd mantais o'r trethi is wrth gystadlu a busnesau eraill cyfagos.

Disgwylir i Lywodraeth Cymru wneud cyhoeddiad cyn y Gwanwyn.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.