Ymchwiliad ar ben?

Tŷ gafodd ei ddifrodi yn ystod yr ymgyrch Cafodd dros 200 o adeiladau eu targedu o ddiwedd y 1970au tan ddechrau'r 1990au

Straeon Perthnasol

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi rhoi'r gorau am y tro i ymchwilio i ymgyrch llosgi tai haf Meibion Glyndŵr.

Cafodd dros 200 o adeiladau eu targedu o ddiwedd y 1970au tan ddechrau'r 1990au.

Dim ond un person a aeth i'r carchar.

Er nad yw'r heddlu yn ymchwilio ar hyn o bryd, maen nhw'n adolygu'r sefyllfa, o ystyried datblygiadau mewn technoleg DNA.

Roedd yr heddlu yn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth yn gofyn a oedd unrhyw ymdrechion i ddod o hyd i'r rhai oedd yn gyfrifol am y troseddau o ystyried datblygiadau fforensig yn cynnwys profion DNA.

Swyddfeydd gwleidyddion

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd yr ymchwiliadau'n "fyw" ond eu bod yn adolygu'r sefyllfa o ran ystyried ffyrdd o ddefnyddio datblygiadau fforensig fel rhan o gyfleoedd ymchwilio eraill.

"Rydym yn gallu cadarnhau bod yr achosion wedi eu cofnodi fel troseddau ond ni allwn wneud unrhyw sylwadau pellach ynghylch achosion unigol na datgelu unrhyw ddulliau sy'n cael eu mabwysiadau yn ystod yr adolygiadau."

Yn ystod y cyfnod llosgi cafodd cychod a swyddfeydd arwerthwyr tai a swyddfeydd gwleidyddion eu targedau hefyd.

Chafodd neb eu hanafu ond achoswyd miloedd o bunnau o ddifrod i'r adeiladau.

Tai yng Nghymru oedd y prif darged, yn y gogledd, y gorllewin a'r canolbarth.

Ond roedd 'na ymosodiadau y tu allan i Gymru hefyd, yng Nghaer ac yn Llundain.

Rhys Gethin

Y drefn arferol oedd bod rhywun yn ffonio newyddiadurwr yn honni eu bod yn cynrychioli Meibion Glyndŵr a bod dyfais wedi ei osod yn y fan a'r fan.

Roedd llythyrau yn hawlio cyfrifoldeb yn cael eu harwyddo gan Rhys Gethin, un o ddilynwyr mwyaf teyrngar Owain Glyndŵr.

Yr unig berson i gael ei garcharu oedd Siôn Aubrey Roberts o Walchmai, Ynys Môn.

Yn ystod y 1990au fe ail-agorwyd yr achos o fomiau post arweiniodd at arestio Roberts ar ôl honiadau bod 35 aelod o'r gwasanaethau cudd wedi ei ddilyn ar ôl iddo gymryd rhan mewn gorymdaith genedlaetholgar yng Nghaernarfon yn 1991.

Cafwyd Roberts yn euog o anfon dyfais ffrwydrol trwy'r post ar ôl wyth wythnos o achos yn Llys y Goron Caernarfon.

Roedd yn 21 oed ar y pryd a chafodd 12 mlynedd o garchar.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.