Cerdyn: Pum mlynedd o oedi
Cafodd un cerdyn teithio ei gyflwyno yn Llundain 10 mlynedd yn ôl
Er y bydd cardiau clyfar ar gyfer teithio ar y bysus ar gael y flwyddyn nesaf bydd pum mlynedd o oedi i deithwyr trenau yng Nghymru.
Roedd disgwyl i gynllun cerdyn Oyster, un cerdyn teithio ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn Nghymru, ddechrau y flwyddyn nesaf ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn bosibl i deithwyr ddefnyddio'r cardiau tan o leia 2018.
Y rheswm, medd y llywodraeth, yw cwmnïau trenau'n cystadlu am gytundebau newydd.
Cafodd un cerdyn teithio ei gyflwyno yn Llundain 10 mlynedd yn ôl.
80%Erbyn hyn, mae'r cerdyn yn cael ei ddefnyddio ar 80% o deithiau yno.
Yn eu cynllun trafnidiaeth roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ymroddedig i gyflwyno trefn debyg yng Nghymru erbyn 2014.
Dywedodd Lee Waters, Cyfarwyddwr elusen Sustrans Cymru: "Mae'r system yng Nghymru yn gymhleth iawn.
"Yn Llundain mae'r drefn un cerdyn yn gweithio am fod y llywodraeth yn rheoli'r bysus a'r trenau.
"Yng Nghymru mae'n wahanol ac mae'n anodd iawn i'r llywodraeth droi syniad syml yn ffaith."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n debygol y bydd y tocynnau ar waith yn llwyr pan fydd y cytundebau trenau newydd mew grym."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~00~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad
Sir yn croesawu'r Urdd
Dau app Cymraeg
Anrhydeddau'r Orsedd
Delio â dementia