Cynghorwyr ddim am dorri'n rhydd o gyngor sir
Mae Cyngor Tref Llanelli yn cyhuddo'r cyngor sir o anwybyddu'r dre
Roedd cyngor tref Llanelli yn trafod nos Fercher a ddylen nhw dorri'n rhydd o Gyngor Sir Caerfyrddin a symud grym nôl i'r dref.
Maen nhw'n cyhuddo'r cyngor sir o anwybyddu'r dref a difetha canol Llanelli.
Ond fe wnaeth cynghorwyr y dref wrthod cynlluniau i adael Cyngor Sir Caerfyrddin.
Cyn y bleidlais dywedodd Ruth Price, cynghorydd ar gyngor tref Llanelli: "Mae'r cyngor sir yn gwybod taw lle trefol yw Llanelli, ond mae'n lumped mewn gyda'r sir wledig.
"Weithiau dyw rhai o'r penderfyniadau ddim yn adlewyrchu yr hyn sy'n iawn i Lanelli fel lle trefol, gyda thrydydd rhan o boblogaeth sir Gâr.
"Weithiau dyw penderfyniadau ddim yn adlewyrchu anghenion Llanelli - dwi ddim yn sôn am yr arian ond am y math o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud."
Datblygiadau newyddAdroddiad Owain Evans
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn wfftio honiadau'r cyngor tref ac mewn datganiad mae'r Prif Weithredwr Mark James yn cyfeirio at ddatblygiad newydd Porth y Dwyrain - datblygiad o swyddfeydd, sinema a bwytai gwerth £25 miliwn, a'r theatr newydd ynghanol y dref, Theatr Ffwrnes, datblygiad gwerth £15 miliwn.
Mae'r cyngor sir hefyd yn pwysleisio buddsoddiad diweddar mewn ysgolion newydd, gwelliannau i dai cyngor a gwariant ar ddatblygu adnoddau hamdden fel clwb Golff Machynys, Parc y Scarlets a chwrs rasio Ffos Las.
Roedd gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan BBC Cymru y llynedd wedi canfod fod gan Lanelli'r nifer uchaf o siopau gwag (27.9%) ac mai yno y gwelwyd y cynnydd mwya' dros y tair blynedd diwetha', o 17.4%.
Ond roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn amau'r ffigurau hyn, ac yn honni mai rhwng 15-16% o siopau yng nghanol tre' Llanelli oedd yn wag.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~03~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp