Birmingham 0-1 Caerdydd
Joe Mason yn cael ei longyfarch gan Craig Bellamy
Gyda mantais o saith pwynt ar frig tabl y Bencampwriaeth mae Caerdydd yn agosáu at eu nod o ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Wedi ennill tair gêm dros y Nadolig mae'r Adar Gleision wedi dechrau 2013 gyda buddugoliaeth arall, ac roedd hwb ychwanegol o glywed fod Hull sydd yn yr ail safle dim ond wedi cael gêm ddi-sgôr oddi cartref yn Blackpool.
Sgoriodd Joe Mason ym munudau olaf yr hanner cyntaf mewn gêm gystadleuol iawn ym Mirmingham.
Manteisiodd Mason ar gamgymeriad gan y golwr Jack Butland, a fethodd ddal ei afael ar ergyd Craig Conway.
Daeth y gôl yn erbyn rhediad y chwarae, ac roedd Craig Bellamy yn ysbrydoledig i'r Cymry.
Dyma oedd 13eg buddugoliaeth Caerdydd gartref mewn 14 o gemau'r tymor hwn.
A chyda'r clwb sydd ar frig y gynghrair ar ddiwedd y flwyddyn galendr am y saith tymor diwethaf wedi mynd ymlaen i ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor mae 'na wir obaith y bydd Caerdydd yn ymuno gydag Abertawe yn yr Uwch Gynghrair.
TABL Y BENCAMPWRIAETH |
|||
|---|---|---|---|
| Gemau | Gwahaniaeth Goliau | Pwyntiau | |
|
Ionawr 1, 2013 |
|||
|
1. CAERDYDD |
26 |
19 |
56 |
|
2. Hull |
26 |
10 |
49 |
|
3. Crystal Palace |
26 |
16 |
47 |
|
4. Middlesbrough |
26 |
10 |
47 |
|
5. Caerlŷr |
26 |
21 |
44 |
|
6. Watford |
25 |
11 |
40 |
~RS~q~RS~~RS~z~RS~44~RS~)

Addysg: 'llai o awdurdodau lleol'
Datblygiad mewn triniaeth canser
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?