Radio Cymru: Dwy awr yn llai o raglenni

Stiwdio radio Mae dros 300 o artistiaid wedi trosglwyddo eu haelodaeth o'r PRS i Eos

Straeon Perthnasol

Mae dwy awr yn llai o raglenni yn cael eu darlledu bob diwrnod ar BBC Radio Cymru o ddydd Mawrth ymlaen ar ôl i'r BBC ac asiantaeth Eos fethu â dod i gytundeb ynglŷn â thaliadau cyfansoddwyr ac artistiaid Cymraeg.

Mae hyn yn golygu nad oes gan Radio Cymru hawl i chwarae caneuon dros 300 o gyfansoddwyr.

Mae'r BBC ac Eos wedi dweud eu bod yn siomedig ac fe fydd y trafodaethau'n ail-ddechrau'r wythnos nesaf.

Roedd Eos wedi dweud eu bod yn anfodlon ar y swm oedd yn cael ei gynnig i artistiaid am ddarlledu eu gwaith.

Trosglwyddo

Ddydd Sadwrn daeth cyhoeddiad gan S4C eu bod wedi dod i gytundeb gydag Eos ynglŷn â breindaliadau.

PRIF NEWIDIADAU I RADIO CYMRU

Mae'r prif newidiadau yn ystod yr wythnos yn effeithio ar y nosweithiau.

  • Bydd C2 yn darlledu am awr yn unig rhwng 7-8pm
  • Ail-ddarlledu rhaglen Dafydd a Caryl 8-10pm
  • Geraint Lloyd yn darlledu am awr yn hytrach na dwy awr 10-11pm
  • Yr orsaf yn cychwyn darlledu am 6.30am yn lle 5.30am
  • Yr orsaf yn cau 11pm yn lle 12am

Roedd dros 300 o artistiaid wedi trosglwyddo eu haelodaeth o'r PRS (Performing Rights Society) i Eos yn gynharach yn y flwyddyn.

Cyn y Nadolig dywedodd BBC Cymru fod Eos wedi "gwrthod cynnig sylweddol".

Mae'r newidiadau yn sgil dim cytundeb yn golygu bod y ddarpariaeth gerddorol yn ystod y dydd yn ehangu i gynnwys cerddoriaeth glasurol boblogaidd ac offerynnol, yn ogystal â nifer o artistiaid Saesneg a rhyngwladol.

Fe fydd rhaglenni nosweithiol poblogaidd C2 - sy'n rhoi llwyfan i gerddoriaeth Gymraeg newydd - yn cael eu cwtogi i awr, ac fe fydd yr orsaf yn dechrau darlledu awr yn hwyrach yn y bore (am 6.30am).

Fe fydd yr orsaf yn gorffen darlledu am 11pm.

'Effaith andwyol'

Start Quote

Rwy'n credu fod yn BBC yn Llundain yn dangos diffyg parch tuag at eu staff yng Nghymru a diwylliant Cymraeg”

End Quote Gwilym Euros Eos

Cyn y trafodaethau ddydd Llun dywedodd cadeirydd Eos, Gwilym Morus: "Mae'n bechod fod y BBC wedi dewis niweidio'r gwasanaeth radio cenedlaethol am eu bod yn anfodlon talu pris teg am gerddoriaeth Gymraeg.

"Ein cynulleidfa yw cynulleidfa'r BBC a dydyn ni ddim am i Radio Cymru ddioddef mwy o niwed.

"Mae'r penderfyniadau hyn gan benaethiaid y gorfforaeth yn mynd i gael effaith andwyol ar y gynulleidfa.

"Gwaetha'r modd, rwy'n credu fod yn BBC yn Llundain yn dangos diffyg parch tuag at eu staff yng Nghymru a diwylliant Cymraeg.

"Rydym yn gofyn iddynt ailystyried eu hagwedd er mwyn osgoi achosi niwed tymor hir i Radio Cymru."

Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru: "Er y bydd cerddoriaeth Gymraeg yn parhau i fod yn rhan hollbwysig o'n rhaglenni, fe fydd yr anghydfod presennol yn ein rhwystro ni rhag chwarae'r rhan fwyaf o'n darpariaeth arferol.

"Fe fydd hyn, wrth reswm, yn cael effaith amlwg ar y gwasanaeth y gallwn ni ei ddarparu, ond hoffwn bwysleisio i'n gwrandawyr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod ansawdd ein rhaglenni er gwaetha'r amgylchiadau anodd."

Llythyr

Roedd Ymddiriedolaeth y BBC, sy'n goruchwylio'r BBC ac yn gweithredu ar ran y rhai sy'n talu ffi'r drwydded, wedi rhybuddio y gallai'r anghydfod "niweidio gwasanaeth hanfodol" i wrandawyr.

Start Quote

Ry'n ni wedi gwrando'n ofalus ar bryderon y cerddorion ac yn cydnabod yr effaith sylweddol y gallai'r anghydfod yma ei gael ar wrandawyr Radio Cymru”

End Quote Rhodri Talfan Davies Cyfarwyddwr BBC Cymru

Mewn llythyr at Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, a gyhoeddwyd ddydd Llun, fe ddywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru: "Mae'r drwg y gallai newid sylweddol ei gael ar gyfer ein cynulleidfaoedd yn bryder mawr iawn i mi...

"Rwy'n deall y pwysau ariannol sy'n wynebu cerddorion Cymraeg ond mae pwysau enfawr ar y BBC hefyd, fel ag sydd ar bob corff cyhoeddus.

"Does neb yn ennill o weithredu fel hyn, yn sicr nid cynulleidfa Radio Cymru.

"A gaf i bwyso arnoch chi i barhau gyda'ch ymdrechion er mwyn sicrhau fod hyn yn cyrraedd datrysiad derbyniol ..."

Roedd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi dweud: "Ry'n ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd cytundeb synhwyrol a chynaliadwy gydag Eos.

"Ry'n ni wedi gwrando'n ofalus ar bryderon y cerddorion ac yn cydnabod yr effaith sylweddol y gallai'r anghydfod yma ei gael ar wrandawyr Radio Cymru os nad oes yna gytundeb.

"Gobeithiwn y gallwn ddod i gytundeb cyn gynted â phosib."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.