Gordewdra: Adroddiad yn galw am newidiadau
Amcangyfrifir bod gordewdra yn costio £73 miliwn y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru
Mae arbenigwyr iechyd yn galw am arolwg o'r gwasanaethau arbenigol sy'n delio gyda gordewdra yn y Gwasanaeth Iechyd.
Honnodd Coleg Brenhinol y Meddygon fod darpariaeth y Gwasanaeth Iechyd wrth geisio helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i golli pwysau yn "annigonol".
Daw adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon ar ôl i lawfeddyg amlwg ddweud ym mis Awst fod prinder adnoddau o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn effeithio ar filoedd o bobl.
Roedd y Dr Nadim Haboubi wedi dweud bod problem gordewdra yn fawr yng Nghymru.
Ychwanegodd fod Cymru ond ychydig yn waeth na'r Unol Daleithiau a bod y broblem yn y wlad hon yn parhau i gynyddu.
Yn y cyfamser, mae astudiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chomisiynu yn amcangyfrif bod gordewdra yn golygu cost o £73 miliwn y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Ymhob ysbyty
Gwnaed yr astudiaeth gan Brifysgol Abertawe.
Mae adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon yn argymell arolwg llwyr o'r gwasanaethau.
Awgrymir y dylid cyflogi arbenigwr meddygol ar ordewdra ymhob ysbyty, a bod angen gwell hyfforddiant i staff y Gwasanaeth Iechyd a mwy o wario ar ymchwil i ordewdra.
Dywedodd yr adroddiad hefyd fod nifer o feddygon a nyrsys yn ordew ac yn esiampl wael.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod benderfynol o daclo gordewdra drwy Llwybr gordewdra Cymru gyfan.
Ychwanegodd y bydden nhw'n ystyried casgliadau'r adroddiad.
"Mae'n hanfodol ein bod yn annog a chefnogi unigolion i wneud dewisiadau mwy iachus, gan gynnwys deiet mwy iach a mwy o ymarfer corff," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu rhaglen Newid Am Oes er mwyn cefnogi pobl sy am fyw bywyd mwy iachus.
Ac maen nhw hefyd yn ceisio dod o hyd i 1,000 o weithwyr Gwasanaeth Iechyd i arwain drwy esiampl fel rhan o gynllun Pencampwyr Iechyd.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~44~RS~)

Rhybudd am doriadau 'hunllefus'
Damwain y Rhws: nifer wedi eu hanafu
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Goramser heddlu: 'Chwalu'r myth'
Ar flaen eich bysedd
Hyrwyddo Maes B