Adroddiad yn beirniadu ysbyty
Bu oedi hir wrth i ambiwlansys giwio y tu allan i'r Uned Ddamweiniau
Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi beirniadu Ysbyty Glan Clwyd oherwydd oedi ambiwlansys a'r modd y mae'n delio gyda chwynion.
Dywedodd yr adroddiad fod hyd at bum ambiwlans yn ciwio y tu allan i'r Adran Ddamweiniau'n "ddigwyddiad cyson" yn yr ysbyty ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Roedd yr arolygwyr hefyd yn poeni am ymateb gwael yr ysbyty i gwynion cleifion.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud eu bod yn derbyn canlyniadau'r adroddiad.
“Start Quote
End Quote Adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd CymruBu cleifion yn disgwyl mewn ambiwlans am gyfnodau sylweddol cyn cael asesiad yn yr Uned Ddamweiniau ac mae hynny'n annerbyniol”
Mae adroddiad yr arolygiaeth yn cynnwys 20 o argymhellion wedi iddyn nhw fynd i'r ysbyty ym mis Chwefrori, gan gynnwys archwilio 7 o'r 25 ward yno ynghyd â'r Uned Ddamweiniau ac Uned Asesu Brys.
PryderonYmhlith y pryderon a fynegwyd yn yr adroddiad roedd:
- Hyd at bum ambiwlans yn ciwio y tu allan i'r Uned Ddamweiniau oherwydd oedi wrth dderbyn cleifion;
- Prinder cyson o staff wedi'u hyfforddai ar rai wardiau;
- Prinder ymgynghorwyr yn yr Uned Ddamweiniau, a phrinder gwelyau gan arwain at oedi wrth dderbyn cleifion i'r ysbyty;
- Methiannau wrth ddelio gyda chwynion.
Dywedodd yr adroddiad: "Fe glywsom gan nifer o gleifion am oedi hir o fewn adrannau ac mewn ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'r drws.
"Bu cleifion yn disgwyl mewn ambiwlans am gyfnodau sylweddol cyn cael asesiad yn yr Uned Ddamweiniau ac mae hynny'n annerbyniol."
Roedd y gofal staff yn dda yn gyffredinol, meddai ond doedd yr ysbryd "ddim yn dda mewn rhai mannau" ac roedd lefel uchel salwch ymysg staff.
'Dan bwysau'Ychwanegodd yr adroddiad: "Roedd hi'n glir wrth drafod gyda staff eu bod yn teimlo dan bwysau ac yn gweithio hyd at 100% o'u gallu o safbwynt gwelyau."
Dywed y bwrdd eu bod yn gweithio i ddatrys y materion yn yr adroddiad
Ar ôl trafod gyda'r bwrdd iechyd, dywedodd yr arolygwyr mai dim ond 28% o gwynion cleifion gafodd ymateb o fewn y 30 diwrnod angenrheidiol.
Roedd unigolyn wedi dweud ei fod yn anfodlon ar y gofal gafodd ei dad fu farw'n ddiweddarach - cwyn a gafodd ei chadarnhau gan yr Ombwdsmon, Peter Tyndall.
Fe gafodd siec ei gyrru at y person ond dywedodd yr adroddiad "nad oedd llythyr nac ymddiheuriad wedi cael ei anfon gyda'r siec".
Mewn achos arall roedd ymateb i gŵyn ar ffurf llythyr - yn dilyn oedi hir - oedd wedi sillafu enw'r person fu farw'n anghywir.
Roedd yr arolygwyr yn fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd yn dilyn adroddiad Mr Tyndall ond roedd "mwy o waith i'w wneud i sicrhau'r safonau uchaf o ofal i gleifion yn Ysbyty Glan Clwyd".
Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: " .... rydym yn parhau i weithio i ddatrys y materion a godwyd."
Ychwanegodd y byddai'n cyhoeddi adroddiad am unrhyw welliannau o fewn chwe mis.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~42~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Llys: Gwadu ei fod yn bidoffeil
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith