Rhodd i'r genedl
Bu farw Dylan Thomas yn 1953, ond mae paratoadau ar y gweill i ddathlu canmlwyddiant ei eni yn 2014
Mae cyfarwyddwr ffilm o ddrama Dylan Thomas, Dan y Wenallt, wedi rhoi hawliau'r ffilm i bobl Cymru.
Mae Andrew Sinclair wedi trosglwyddo rheolaeth y ffilm o 1972 gyda Richard Burton ac Elizabeth Taylor i ymddiriedolaeth newydd.
Y gobaith yw y bydd breindaliadau'r ffilm yn talu am gynlluniau diwylliannol a ffilmiau i gael eu gwneud yng Nghymru, gan gynnwys dehongliadau newydd o waith Thomas.
Daw'r cyhoeddiad wrth i Gyngor Prydeinig Cymru gyhoeddi cynlluniau i ddangos gwaith y bardd a dramodydd i'r byd.
CasgliadCafodd ffilm 'Under Milk Wood' ei gwneud am £300,000 yn y 1970au cynnar, ac fe gafodd ei ffilmio yn Abergwaun, Sir Benfro.
Mae'n portreadu bywydau pentref dychmygol Llarregub, ac yn seiliedig ar ddrama radio gan Dylan Thomas.
Hefyd yn perfformio yn y ffilm y mae Peter O'Toole a Victor Spinetti a fu farw ym mis Mehefin eleni.
Cadwodd Andrew Sinclair yr hawliau i'r ffilm, ac fe gadwodd hefyd gasgliad eang o sgriptiau, lluniau a phethau eraill sy'n rhan o'i rodd.
Roedd Richard Burton ac Elizabeth Taylor ymhlith ser y fflim
Mae'n anodd dweud yn union faint o arian bydd y ffilm yn godi, ond fe fydd yn sicr o greu incwm o ddegau o filoedd o bunnau yn flynyddol i Ymddiriedolaeth Milkwood.
Cyhoeddodd Mr Sinclair y rhodd wrth i'r ffilm ddathlu 40 mlynedd drwy gael ei dangos yng nghanolfan gelf Chapter yng Nghaerdydd nos Fercher.
Dywedodd cadeirydd BAFTA Cymru, Dewi Vaughan Owen: "Bydd y stori tu cefn i'r ffilm eiconig yma nawr yn rhan o waddol diwylliannol Cymru."
Mae Dylan Thomas 100 yn paratoi i ddathlu canmlwyddiant ei eni yn 2014 gyda gŵyl £750,000 o weithgareddau fydd yn dangos pwysigrwydd diwylliannol, celfyddydol, addysgol a masnachol ei waith.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Cyngor Prydeinig Cymru eu bwriad i ddod â gwaith Dylan Thomas i sylw'r byd dros y ddwy flynedd nesaf.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~55~RS~)

Cynlluniau iechyd y de i gael eu cyhoeddi
Llwyfan i dalent Penfro
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'