A55: £3m ar gyfer cynnal a chadw
Caewyd rhan o'r A55 ger Bangor am 12 awr ym mis Tachwedd
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £3 miliwn yn cael ei wario ar gynnal a chadw priffyrdd y gogledd.
Cadarnhaodd Carl Sargeant AC y bydd yr arian ar gael dros gyfnod o dri mis, gyda phwyslais arbennig ar yr A55.
Yn dilyn llifogydd yn ddiweddar, galwodd rhai Aelodau Cynulliad am ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru wrth i rai gyrwyr gael eu dal yn sownd ar yr A55 ger Bangor am 12 awr.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd wedi mynegi pryder y gallai'r sefyllfa fod wedi arwain at gerbydau argyfwng yn methu â chyrraedd ysbytai.
Mae cyhoeddiad dydd Iau yn ymateb uniongyrchol i'r hyn ddigwyddodd.
Bydd yr arian yn cael ei wario ar waith cynnal a chadw er mwyn gwella'r rhwydwaith briffyrdd.
'Siomedig'“Start Quote
End Quote Gareth Jones Cyngor Plwy' LlanfairfechanDwi'n siomedig hefo £3m - efallai y bydd hynny'n talu am waith draenio a phethau felly, ond dydi o ddim yn lot o bres heddiw”
Mae'r darn o'r A55 rhwng Llanfairfechan a Bangor wedi cau ddwywaith eleni - y tro cyntaf yn dilyn damwain pan drodd lori ar ei hochr gan gau'r ffordd tua'r dwyrain yn llwyr, ac yna llifogydd Tachwedd pan gaewyd y ffordd i'r ddau gyfeiriad.
Oherwydd natur y rhwydwaith, does dim ffordd arall i fynd drwy'r ardal.
Un o'r bobl oedd yn flin iawn yn dilyn llifogydd mis Tachwedd oedd Gareth Jones, sy'n aelod o gyngor plwyf Llanfairfechan.
Wrth glywed am gyhoeddiad Mr Sargeant, dywedodd: "Gobeithio bod £3m yn ddigon, ond dydi o ddim yn lot.
"O'n i wedi gobeithio y bydda fo'n cyhoeddi y byddai'r darn o ffordd rhwng Abergwyngregyn a Thai'r Meibion yn cael ei uwchraddio'n gyfan gwbl.
"Roedd hynny ar y gweill dipyn yn ôl, ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu'r plwg ar hynny.
"Dwi'n siomedig hefo £3m - efallai y bydd hynny'n talu am waith draenio a phethau felly, ond dydi o ddim yn lot o bres heddiw."
Caewyd rhan o'r A55 ym mis Awst wrth i lori droi ar ei hochr
Yn dilyn cau'r ffordd ym mis Tachwedd, roedd y Gweinidog wedi gorchymyn adolygiad brys er mwyn ystyried y posibilrwydd o welliannau.
Dywedodd Mr Sargeant: "Mae'r A55 yn chwarae rôl allweddol i economi gogledd Cymru.
"Mae sicrhau bod y ffordd yma yn cwrdd ag anghenion busnesau a thrigolion lleol yn hanfodol er mwyn gwella'r economi leol ac adfywio'r ardal.
"Roedd cau'r A55 oherwydd llifogydd yn ddiweddar yn annerbyniol, ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi sefyllfa debyg yn y dyfodol.
"Bydd yr arian ychwanegol yma yn gymorth i asesu'r risg drwy wella gallu'r isadeiledd yn y rhannau yr ydym yn gwybod eu bod yn drafferthus, a hynny tra ein bod yn cynllunio gwaith mwy tymor hir yno."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~22~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp