Yn ôl i'r drefn arferol ym myd gwleidyddiaeth Cymru

Y cyfri yn Wrecsam Roedd 'na etholiad ym mhob un o siroedd Cymru ac eithrio Ynys Môn eleni

Doedd 2012 ddim yn flwyddyn fawr yn hanes gwleidyddol Cymru. Does dim pwynt esgus ei bod hi.

Yn hytrach roedd hon yn flwyddyn pan ddychwelodd Cymru i'r drefn arferol.

Ar ôl dioddef sawl crasfa etholiadol, fe ail-sefydlodd Llafur ei hun fel plaid fwyaf Cymru yn yr etholiadau lleol gan sicrhau buddugoliaethau'r un mor ysgubol ac annisgwyl a'i cholledion blaenorol.

Ar ddiwedd y cyfri' roedd Llafur yn ôl mewn grym, nid yn unig yn ei chadarnleoedd traddodiadol ond hefyd mewn cynghorau "ymylol" megis Caerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd.

Amhoblogrwydd clymblaid San Steffan oedd yn gyfrifol am y dadeni Llafur ac roedd Llywodraeth Cymru'n ddigon parod i ddiffinio'i hun trwy ei gwrthwynebiad i fesurau'r llywodraeth ganol.

Ac eithrio ym maes addysg, lle bu'r Gweinidog diflino Leighton Andrews yn parhau i gorddi'r dyfroedd, digon carcus fu Carwyn Jones a'i gabinet wrth gyflwyno polisïau a deddfau newydd.

Arweinydd newydd

Mae'n debyg bod diffyg mwyafrif yn y Siambr yn rhannol gyfrifol am agwedd pwyllog y Llywodraeth ac mae absenoldeb rhai aelodau o'r Siambr oherwydd salwch wedi ychwanegu at broblemau'r Prif Weinidog.

Leanne Wood Cafodd Leanne Wood ei hethol yn arweinydd newydd Plaid Cymru

Serch hynny, methiant ar y cyfan fu ymdrechion y gwrthbleidiau i glatsio'r llywodraeth.

Gydag ethol Leanne Wood yn arweinydd Plaid Cymru, diflannodd y posibilrwydd o gydweithio agos rhwng y gwrthbleidiau a doedd hi ddim yn syndod efallai mai at Y Cenedlaetholwyr y trodd Carwyn Jones am y pleidleisiau angenrheidiol i gymeradwyo ei gyllideb.

Yn y cyfamser, parhau mae'r ansicrwydd ynghylch setliad cyfansoddiadol Cymru.

Yn sgil cyhoeddi casgliadau Comisiwn Silk, mae'n debyg y bydd y Cynulliad yn derbyn pwerau trethi yn y dyfodol ond gweithredu dan gysgod datblygiadau yn Yr Alban fu hanes Cymru eleni ac mae'r un peth yn debyg o fod yn wir yn 2013.

Mwy Am y Stori Hon

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.