Cwmni hufen ia yn gadael Cricieth wedi 85 mlynedd

Cwmni Cadwladers Mae'r cwmni wedi bod yn cynhyrchu hufen iâ ers 1927

Bydd y gwaith o gynhyrchu hufen ia enwog Cadwaladers yn symud o ardal Cricieth yng Ngwynedd ar ôl 85 mlynedd.

Cadarnhaodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Diane Brierley, y bydd y gwaith yn symud o Lanystumdwy i Sir Gaerfyrddin.

Fe fydd tri pherson yn colli eu gwaith yn Llanystumdwy, ond mae'r cwmni yn disgwyl creu swyddi ychwanegol yn eu lleoliad newydd.

Mae pencadlys gweinyddol y cwmni eisoes yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ms Brierley: "Rydym yn ehangu'r cwmni, ac mae angen mwy o le.

"Mae'n gyfnod cyffrous yn yr ystyr ein bod yn gwneud yn dda mewn hinsawdd economaidd anodd."

Ychwanegodd y byddai'r cwmni yn parhau i ddefnyddio'r rysáit cyfrinachol a ddefnyddiwyd ers 1927, ac y byddai'n parhau i ddefnyddio cynhwysion o Gymru.

Mae'r cwmni, sy'n berchen ar 10 caffi, yn gobeithio agor 3-5 safle newydd bob blwyddyn am y tair blynedd nesaf.

Maen nhw hefyd am ddatblygu eu busnes siopau coffi, gyda dau eisoes ar agor yng Nghaerdydd ac un arall ar fin agor ym Mhorthmadog.

Mae ganddyn nhw ddau leoliad yn Lloegr hefyd, ym Manceinion a Sir Stafford.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.