Rob Howley i mewn, Shaun Edwards allan o garfan hyfforddi'r Llewod

Rob Howley Roedd Rob Howley yn aelod o'r tîm hyfforddi yn 2009 hefyd

Straeon Perthnasol

Mae Warren Gatland wedi cadarnhau ei dîm hyfforddi ar gyfer taith y Llewod i Awstralia yn 2013.

Mae Rob Howley, Andy Farrell a Graham Rowntree wedi cael eu henwi, gan olygu nad oes lle i hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, yn y tîm.

Roedd Howley (olwyr) a Rowntree (blaenwyr) yn rhan o'r tîm hyfforddi ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 2009.

Ond roedd Edwards wedi dweud yn gyhoeddus y byddai'n dymuno bod yn rhan o'r tîm y tro hwn.

TAITH Y LLEWOD I AWSTRALIA 2013

  • Sad, Mehefin 1 - Barbariaid, Hong Kong
  • Mer. Mehefin 5 - Western Force, Perth
  • Sad. Mehefin 8 - Queensland Reds, Brisbane
  • Mer. Mehefin 12 - Tîm cyfunol New South Wales-Queensland Country, Newcastle
  • Sad Mehefin 15 - New South Wales Waratahs, Sydney
  • Maw. Mehefin 18 - ACT Brumbies, Canberra
  • Sad. Mehefin 22 - Prawf Cyntaf, Brisbane
  • Maw. Mehefin 25 - Melbourne Rebels, Melbourne
  • Sad. Mehefin 29 - Ail Brawf, Melbourne
  • Sad. Gorffennaf 6 - Trydydd Prawf, Sydney

Fe fydd Gatland yn canolbwyntio ar ei waith gyda'r Llewod, ond fe fydd tîm Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan ofal Howley cyn iddo yntau droi ei sylw at Awstralia.

Mae Howley, oedd yng ngharfan y Llewod fel chwaraewr yn nheithiau 1997 a 2001, wedi colli pump o'i chwe gêm yn brif hyfforddwr Cymru.

'Unigryw'

Wrth fynegi ei fod yn hapus gyda'r cyhoeddiad, dywedodd Warren Gatland: "Mae teithiau'r Llewod yn unigryw gan fod rhaid moldio chwaraewyr o bedair gwlad gyda'i gilydd mewn cyfnod byr iawn.

"Rydym yn sylweddol maint y dasg, ond rydym wedi siarad am y sialensau ac yn credu y gallwn fel tîm hyfforddi ddarparu'r gefnogaeth a'r amgylchedd sydd angen ar y chwaraewyr i ennill yn Awstralia.

"Byddwn hefyd yn trafod dros yr wythnosau nesaf yr angen am fwy o gymorth technegol."

Bydd y daith yn dechrau gyda gêm yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong ar Fehefin 1, 2013, gyda'r prawf cyntaf yn erbyn Awstralia ar Fehefin 22 yn Brisbane.

Nid yw'r Llewod wedi ennill cyfres brawf ers iddyn nhw deithio i Dde Affrica yn 1997.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.