Canlyniadau Cyfrifiad yn rhai siomedig, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg

Meri Huws Dywed Meri Huws fod angen cydweithio er mwyn cynyddu nifer siaradwyr

"Addysg, tai a gwaith yw'r tri maes y mae angen mynd i'r afael â nhw ar fyrder," meddai Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws fod y canlyniadau'n siomedig.

"Er bod disgwyl y byddai'r map ieithyddol wedi newid ers 2001, mae'n wir dweud bod yr ystadegau a gyhoeddwyd heddiw'n ysgytwad.

"Efallai bod yna berygl wedi bod i bawb fynd i ryw gyfforddusrwydd artiffisial 10 mlynedd yn ôl gan gredu bod tro ar fyd - a bod twf mewn rhai ardaloedd yn gwneud yn iawn am y gostyngiad mewn ardaloedd eraill.

"Os mai felly oedd hi am y 10 mlynedd diwethaf, yna mae'r cloc larwm wedi canu'n uchel iawn ... ac mae yna heriau pendant i'w hateb ..."

'Her enfawr'

BARN AR LAWR GWLAD

Lis McLean, Canolfan Soar a Menter Gymraeg Merthyr Tudful:

"Dwi wir yn teimlo'n siomedig. Mae'n rhaid i fi ddweud fy mod wedi dihuno yn llawn cyffro, yn disgwyl i'r ganran fynd lan - ond ar yr un pryd, sut y'n ni'n mynd i ga'l cynnydd os nad oes buddsoddiad yn addysg Gymraeg fel ym Merthyr?

Mae e lot i 'neud nad oedd buddsoddiad yn yr addysg, a'r ffaith bod strategaeth Gymraeg y cyngor ddim yn cael ei gweithredu. Bydd hwn yn sbardun i 'neud i ni gyd sylweddoli faint o waith sydd i'w 'neud a rhaid i ni gyd gydweithio."

Maldwyn Jones o'r Felinheli:

"Fe fydd 'na ddirywiad yn yr iaith os na fydd gwaith. Y peth pwysica' yw dod â gwaith i'r ardal, ac mae'r bobl ifanc yn gadael fama. Wnan nhw ddim dod yn ôl wedyn a fydd 'na ddirywiad yn yr iaith. Os cewch chi waith i'r werin bobl, fe fydd yr iaith yn parhau."

Dinah Ellis, Cydlynydd Cenedlaethol mudiad Twf:

"Dwi'n trio edrych ar ddarlun positif o'r gwaith yr ydan ni'n ei 'neud. Os ydan ni'n edrych ar ystadegau oedran 3-4 oed, mae 'na gynnydd sylweddol wedi bod yn niferoedd yma sy'n siarad y Gymraeg. O fod yn gweithio allan yn y maes y neges glir dwi'n ei chael yw bod rhieni yn wirioneddol gefnogol i'r iaith. Ein prif nod ni fel cynllun ydy trio cynyddu'r niferoedd sy'n trosglwyddo'r iaith ar yr aelwyd."

Dywedodd mai ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg fyddai rheoleiddio gweithredoedd y llywodraeth a sefydliadau eraill, gan sicrhau bod y problemau a'r rhwystrau oedd yn wynebu'r iaith yn cael eu datrys drwy greu a gweithredu polisïau cadarn. Felly y byddai cyfleoedd newydd yn cael eu creu.

Roedd angen iddi wneud yn siŵr, meddai, fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn sicrhau bod yna ddarpariaeth addysg briodol ar gyfer y grŵp oedran 3-18 oed.

"Mae graddfa'r gostyngiad yn siaradwyr Cymraeg siroedd Caerfyrddin a Cheredigion yn her enfawr.

"Bellach ni allwn ddibynnu ar ddefnydd cymunedol yn unig i sicrhau parhad y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn a bydd angen i ni droi at greu cyfundrefn addysg a pholisïau cynllunio sy'n ymateb i'r her.

'Y farchnad dai'

"Mae'r farchnad dai, mudoledd a diffyg gwaith yn ffactorau sy'n golygu bod y Gymraeg yn colli ei thir yn y siroedd gorllewinol, gyda'r bobl ifanc lleol yn gadael eu bröydd.

"Wrth i mi osod safonau statudol ar awdurdodau lleol, bydd gofyn iddyn nhw ystyried effaith ar y Gymraeg ym mhob un penderfyniad polisi y maen nhw'n ei wneud.

"Mae'r ffeithiau yn dangos yr her yn glir iawn ond mae'n bwysig i ni gofio mai her sydd yma nid anobaith."

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.