Y Gymraeg 'mewn argyfwng' yn ôl Cymdeithas yr Iaith

Cymdeithas yr Iaith Cymdeithas: 'Y gostyngiad yn holl siroedd y gorllewin yn fater o bryder dirfawr'

Wrth ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yr iaith "mewn argyfwng".

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddodd y manylion fore Mawrth.

Roedd 'na ostyngiad o 2.75% yn nifer y rhai yng Nghymru dros 3 oed yn siarad Cymraeg yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Roedd y gostyngiad mwyaf yn Sir Gaerfyrddin a chynnydd bach iawn oedd yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed yn 2003, yn y strategaeth iaith, i gynyddu nifer y siaradwyr 5% i 26%.

Dywedodd y mudiad iaith y bydden nhw'n lansio "maniffesto byw" yr wythnos hon cyn cynnal rali yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn.

'Pryder dirfawr'

Start Quote

Y gwir yw bod pobl Cymru yn gefnogol iawn i'n hiaith unigryw ond dydy'r Llywodraeth ddim yn gwireddu eu huchelgais”

End Quote Robin Farrar Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Mae'r newyddion hyn yn adlewyrchu'n wael iawn ar Lywodraeth Cymru a osododd darged o gynyddu nifer y siaradwyr," meddai Robin Farrar, Cadeirydd newydd-etholedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, ei fod wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

"Rwy'n gobeithio y bydd Carwyn Jones yn trefnu cyfarfod gyda ni ar frys oherwydd bod angen camau newydd, dewr a chlir gan y llywodraeth ar bob lefel i wrthdroi'r dirywiad a ddangosir yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad.

"Mae'r gostyngiad yn holl siroedd y gorllewin yn fater o bryder dirfawr.

"Y gwir yw bod pobl Cymru yn gefnogol iawn i'n hiaith unigryw ond dydy'r Llywodraeth ddim yn gwireddu eu huchelgais.

'Cryfder'

"Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar fodolaeth a chryfder ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.

"Rhaid mynd i'r afael â nifer o ffactorau ar frys er mwyn gwrthdroi'r dirywiad yn nifer o siroedd lle mae'r Gymraeg wedi bod yn gryf yn draddodiadol, yn enwedig, y patrymau allfudo a mewnfudo, sicrhau swyddi Cymraeg eu hiaith a'r system addysg."

Dywedodd Mentrau Iaith Cymru fod angen mwy o adnoddau i hybu'r defnydd o'r iaith a dull cyfannol wrth geisio cynyddu nifer y siaradwyr.

Start Quote

Mae'r iaith Gymraeg bellach yn iaith y lleiafrif yn rhai o'r cadarnleoedd lle byddai neb wedi credu hynny genhedlaeth yn ôl”

End Quote Mentrau Iaith Cymru

Roedd dewis iaith unigolyn yn gymhleth, meddai, ac yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys gallu ieithyddol y teulu a'u cylch cymdeithasol.

"Mae'r iaith Gymraeg yn iaith y lleiafrif yn rhai o'r cadarnleoedd lle byddai neb wedi credu hynny genhedlaeth yn ôl.

"Y sicr, mae'r twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg o oedran ysgol yn galonogol, ac yn dangos bod angen buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod sgiliau iaith y grŵp yn cael eu gwarchod.

"Ond mae canlyniad y Cyfrifiad yn dangos yr angen am adnoddau ar draws pob grŵp oedran ac nad yw buddsoddi mewn addysg Gymraeg yn unig yn ddigon i gynhyrchu mwy o siaradwyr Cymraeg."

Blaenoriaethu

Dywedodd Dyfodol i'r Iaith fod canlyniadau'r Cyfrifiad yn profi'r angen am weithredu cadarnhaol o blaid y Gymraeg.

"Mae gweithredu cadarnhaol yn ôl natur ieithyddol y gwahanol ardaloedd yn dod yn hanfodol," yn ôl Bethan Jones Parry, llywydd y mudiad.

Mynnodd fod rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ddulliau hybu'r iaith dros y 10 mlynedd nesaf.

Start Quote

Mae gwendid yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg o'u cymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl yn adlewyrchu'r symudiadau poblogaeth uchel yn yr ardaloedd hyn yn ogystal â gwendid economaidd”

End Quote Dyfodol i'r Iaith

"Rydyn ni'n croesawu'r cynnydd yn nifer y siaradwyr mewn ardaloedd llai Cymraeg," meddai.

"Dyna brofi bod addysg Gymraeg yn gwneud newid mawr a bod dyhead cyffredinol i weld y Gymraeg yn iaith fyw yn y gymdeithas unwaith eto.

"Mae gwendid yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg o'u cymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl yn adlewyrchu'r symudiadau poblogaeth uchel yn yr ardaloedd hyn yn ogystal â gwendid economaidd.

"Dylid ystyried creu ardaloedd twf mewn trefi yn y gorllewin a'r gogledd ac mae angen adleoli adrannau o'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus a allai weinyddu yn Gymraeg.

"Bydd hyn yn fodd o ddenu siaradwyr Cymraeg allweddol i'r economi.

"Rhaid gosod ffactorau ieithyddol yng nghanol y broses gynllunio ac ailedrych ar frys ar y targedau tai afresymol o uchel osododd Llywodraeth Cymru ar yr awdurdodau lleol."

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.