Jade Jones yn ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru

Jade Jones Dywedodd Jade Jones bod hi'n dipyn o anrhydedd i ennill a chael ei dewis gan y cyhoedd

Straeon Perthnasol

Y bencampwraig taekwondo, Jade Jones, sydd wedi ei henwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2012 BBC Cymru.

Fe wnaeth y ferch 19 oed o'r Fflint ennill y bleidlais gyhoeddus wrth i seren rygbi Cymru Dan Lydiate fod yn ail a'r seiclwr Geraint Thomas ddod yn drydydd.

Enillodd Jones y Fedal Aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn ystod yr haf gan guro Yuzhuo Hou 6-4 i ennill y bencampwriaeth i ferched yn y pwysau 57 cilogram.

Dyma oedd medal aur gyntaf Prydain yn y gamp.

Jade Jones

Jade Jones
  • Geni: Mawrth 21 1993 ym Modelwyddan, Sir Ddinbych
  • Ennill Aur yn y Gemau Olympaidd i Ieuenctid yn Singapore yn 2010.
  • Ennill ei theitl proffesiynol cyntaf - 62 cilogram ym Mhencampwriaeth Agored America yn 2011
  • Ennill Arian ym Mhencapwriaeth y Byd yn Ne Corea yn 2011
  • Pencampwraig Olympaidd ar ôl ennill categori 57 cilogram yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012
  • Ennnill Gwobr Carwyn James 2010 (y ferch ifanc sydd wedi gwneud ei marc yn y byd chwaraeon

Cafodd Jones ei chyflwyno i'r gamp yn wyth oed gan ei thaid, Martin Foulkes.

Cyhoeddwyd mai Jones ddaeth i'r brig mewn seremoni yn Stadiwm y Mileniwm nos Lun.

Roedd yn gyfle i ddathlu blwyddyn o lwyddiant ym myd y campau yng Nghymru.

Wrth dderbyn y wobr dywedodd ei bod yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd.

"Mae'r ffaith mai'r cyhoedd sy'n pleidleisio yn gwneud y wobr yn arbennig iawn," meddai.

"Doedd bobl ddim yn gwybod be oedd taekwondo cyn y Gemau ond rwan dwi'n gobeithio bod pobl yn fwy ymwybodol rwan.

"Dwi'n llysgennad i'r gamp ac mae'n anrhydedd bod wedi cael fy enwebu gyda naw arbennig arall.

"Dwi mor hapus ac yn falch iawn ond yn ddiolchgar i'r cyhoedd am eu pleidleisiau.

"Alla i ddim credu fy mod i wedi ennill, mae'n dipyn o anrhydedd."

Neidiwr

Dan Lydiate oedd chwaraewr y bencampwriaeth eleni ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am ei berfformiadau wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn.

Ac fe ddaeth Thomas yn un o bedwar Cymro yn unig i ennill mwy nag un fedal aur pan wnaeth tîm seiclo Prydain amddiffyn eu teitl ar y trac yn y Gemau Olympaidd a thorri record wrth wneud hynny.

Roedd hi'n benllanw blwyddyn lwyddiannus iddo fo a'r tîm, Edward Clancy, Steven Burke a Peter Jennaugh ar ôl iddyn nhw ennill pencampwriaeth y Byd yn Melbourne Awstralia.

Enillodd Lynn Davies ei Fedal Aur yng Ngemau Tokyo yn 1964 Enillodd Lynn Davies ei Fedal Aur yng Ngemau Tokyo yn 1964

Ymhlith gwobrau eraill a gyhoeddwyd nos Lun yn y seremoni oedd mai Tîm Rygbi Cymru ddaeth i'r brig fel tîm y Flwyddyn ar ôl ennill eu trydedd Camp Lawn mewn wyth mlynedd.

Lynn Davies dderbyniodd Gwobr Cyfraniad Oes ac fe aeth Gwobr Carwyn James i'r ieuenctid i'r nofiwr Ieuan Lloyd a'r seiclwr Elinor Barker.

Enillodd Davies Fedal Aur yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 1964.

Llwyddodd i guro record Ralph Boston gyda naid hir o 8.07 metr.

Yn 1968 fe wnaeth ei naid orau, 8.23 metr yn Berne a ganddo fo yr oedd y record Gymreig am 34 mlynedd.

Fe wnaeth Lloyd gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Llundain a methu o drwch blewyn i gyrraedd y rownd gynderfynol nofio rhydd 200m ond roedd yn un o'r tîm cyfnewid 4x200m a orffennodd yn chweched yn y rownd derfynol.

Enillodd Barker ras yn erbyn y cloc ym mhencampwriaethau'r byd i ieuenctid yn Seland Newydd yn ogystal â gwobrau Ewropeaidd ym Mhortiwgal yn ystod y flwyddyn.

Gwobr arall a gyflwynwyd yn ystod y noson oedd i Arthur Wood.

Fo gafodd ei ddewis fel Arwr Tawel 2012 am ei waith gwirfoddol gyda Chlwb Saethu Abertawe am dros 20 mlynedd.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.