Rhybudd cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith am ganlyniadau camarweiniol

Cymorth

Dydd Mawrth fe allwn ni glywed fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi.

Ond fe all ffigyrau fod ychydig yn gamarweiniol hefyd yn ôl neges cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yn ôl Meirion Prys Jones mae'n anodd ystyried manylion y Cyfrifiad ynghylch y Gymraeg yn "ddata caled".

"Yn yr ystod oedran rhwng tair a 15 oed - mae'r Cyfrifiad (yn 2001) yn dangos bod 40% yn siaradwyr Cymraeg .... ac eto 'dan ni'n gwybod mai dim ond 20% o blant Cymru sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.....

"Felly mewn llawer i ffordd mae'r Cyfrifiad yn dangos agwedd rhieni Cymru at y Gymraeg...

"Mae'r ffigyrau ychydig yn gamarweiniol, ond maen nhw'n dangos bod llawer iawn o rieni'n dymuno i'w plant siarad Cymraeg yn hytrach na'u bod nhw mewn gwirionedd .....

"felly mae 'na elfen o gamargraff yn hynny."

Bu Mr Jones yn Brif Weithredwr ar Fwrdd yr Iaith rhwng 2004 a 2012.

Fe ddiddymwyd y bwrdd yn gynharach eleni wrth i Gomisiynydd y Gymraeg ddechrau ar ei gwaith.

Ellis Roberts fu'n ei holi.

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.