12 awr arall i holi llanc wedi i fachgen farw ger Caerdydd
Mae'r heddlu wedi cael 12 awr arall i holi llanc wedi i fachgen farw ger Caerdydd.
Tarodd car coch BMW y bachgen saith oed ar safle carafanau Shirenewton am 3pm ddydd Sadwrn.
Aed â'r bachgen i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle bu farw.
Cafodd llanc 16 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 a dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod criw o blant neu bobl ifanc wedi gweld yr hyn ddigwyddodd.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~18~RS~)

Rali i wrthwynebu newidiadau addysg
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp