Her i gadeirydd mudiad iaith

Mae'r mudiad yn 50 oed eleni Mae'r mudiad yn 50 oed eleni

Straeon Perthnasol

Mae cadeirydd newydd mudiad iaith wedi dweud y bydd cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth i'r mudiad.

Cafodd Robin Crag Farrar, 27 oed, ei ethol yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng nghyfarfod Senedd y mudiad ddydd Sadwrn.

Yn wreiddiol o Fynydd Llandygái, Gwynedd, mae'n gweithio fel hwylusydd prosiectau ym maes cynaliadwyedd ym Machynlleth.

"Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar gymunedau Cymraeg eu hiaith a dyna yw ein prif flaenoriaeth fel mudiad.

'Momentwm'

"Rydyn ni'n dal ym mlwyddyn dathlu ein hanner canmlwyddiant ac mae'r momentwm hwn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg cynaliadwy.

"Os ydan ni'n credu eu bod yn bwysig, rhaid gweithredu nawr."

Er iddo ddechrau'i yrfa fel athro, erbyn hyn mae'n gweithio ar brosiectau cymunedol sy'n ymwneud â'r amgylchedd â'r economi leol yn ardal Biosffer Dyfi.

Dywedodd ei fod yn aelod o grŵp cymunedol oedd wedi penderfynu gweithio dros ei hun er mwyn gwarchod cymuned Gymraeg a'u bod yn llwyddo.

"Mae sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau Cymraeg yn her nid yn unig i'r Llywodraeth, ond yn her hefyd i bob un ohonom weithio o fewn ein cymunedau."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.